Ionawr 22-28
JOB 38-39
Cân 11 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
1. Wyt Ti’n Neilltuo Amser i Astudio Creadigaeth?
(10 mun.)
Ar ôl creu’r byd, cymerodd Jehofa yr amser i adlewyrchu ar ei waith (Ge 1:10, 12; Job 38:5, 6; w21.08 9 ¶7)
Cymerodd yr angylion amser i ystyried creadigaeth Jehofa (Job 38:7; w20.08 14 ¶2)
Gallwn ni gryfhau ein fydd yn Jehofa drwy ystyried a myfyrio ar y greadigaeth (Job 38:32-35; w23.03 17 ¶8)
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
-
Job 38:8-10—Beth mae’r adnodau hyn yn ein dysgu ni am Jehofa fel y Lluniwr cyfreithiau? (it-2-E 222)
-
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Job 39:1-22 (th gwers 5)
4. Dechrau Sgwrs
(2 fun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Dod â’r sgwrs i ben ar nodyn positif os wyt ti’n synhwyro dydy’r person arall ddim eisiau siarad. (lmd gwers 2 pwynt 3)
5. Parhau âʼr Sgwrs
(5 mun.) O DŶ I DŶ. Mewn sgwrs cynt, datgelodd y person ei fod wedi colli anwylyn. (lmd gwers 9 pwynt 3)
6. Anerchiad
(5 mun.) lmd atodiad A pwynt 1—Thema: Mae’r Digwyddiadau yn y Byd a’r Ffordd Mae Pobl yn Ymddwyn yn Dangos Bod Pethau ar Fin Newid. (th gwers 16)
Cân 111
7. Mae Astudio Creadigaeth yn Ein Helpu Ni i Weld y Darlun Mawr
(15 mun.) Trafodaeth.
Pan oedd Job o dan ymosodiad gan ei dri ffrind a gan Satan, doedd ganddo ddim byd ar ei feddwl heb law am ei broblemau ei hun a’r feirniadaeth lym roedd ef wedi ei profi.
Darllen Job 37:14. Yna, gofynna i’r gynulleidfa:
Beth roedd rhaid i Job ei wneud er mwyn adfer ei gydbwysedd ysbrydol?
Pan mae treialon yn ein llethu ni, gall ystyried creadigaeth ein helpu ni i gofio mawredd Jehofa, ein helpu i gryfhau ein hawydd i fod yn ffyddlon iddo, ac yn ein helpu i gryfhau ein hyder yn ei allu i ofalu amdanon ni.—Mth 6:26.
Dangosa’r FIDEO Lessons From the Book of Job—Animal Creation. Yna, gofynna i’r gynulleidfa:
Sut gwnaeth y fideo hwn dy helpu di i ddyfnhau dy hyder yn Jehofa?