Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ionawr 29–Chwefror 4

JOB 40-42

Ionawr 29–Chwefror 4

Cân 124 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)

TRYSORAU O AIR DUW

1. Gwersi o Brofiad Job

(10 mun.)

Cydnabydda fod dy safbwynt yn gyfyngedig o’i gymharu ag un Jehofa (Job 42:​1-3; w10-E 10/15 3-4 ¶4-6)

Bydda’n gyflym i dderbyn cyngor gan Jehofa a’i gyfundrefn (Job 42:​5, 6; w17.06 25 ¶12)

Mae Jehofa’n gwobrwyo’r rhai sy’n aros yn ffyddlon iddo er gwaethaf treialon (Job 42:​10-12; Iag 5:11; w22.06 25 ¶17-18)

Gwnaeth Jehofa wobrwyo Job am ei ffyddlondeb

2. Cloddio am Drysor Ysbrydol

(10 mun.)

  • Job 42:7—Am bwy roedd tri ffrind Job yn siarad yn ei erbyn, a sut gall wybod hyn ein helpu ni i ddyfalbarhau os ydyn ni’n cael ein gwawdio? (it-2-E 808)

  • Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?

3. Darlleniad o’r Beibl

(4 mun.) Job 42:​1-17 (th gwers 11)

RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH

4. Dechrau Sgwrs

(3 mun.) O DŶ I DŶ. Dydy’r person ddim wedi cael ei fagu fel Cristion. (lmd gwers 5 pwynt 3)

5. Gwneud Disgyblion

6. Anerchiad

(4 mun.) lmd atodiad A pwynt 2—Thema: Ni Fydd y Ddaear Byth yn Cael ei Dinistrio. (th gwers 13)

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cân 108

7. Helpa Eraill i Deimlo Cariad Jehofa

(15 mun.) Trafodaeth.

Gan mai cariad ydy Duw, rydyn ni’n falch o’i addoli. (1In 4:​8, 16) Mae personoliaeth gariadus Jehofa yn ein denu ni ato, ac yn ein cymell ni i aros yn agos ato. Fel defaid Jehofa, rydyn ni i gyd yn teimlo ei gariad.

Rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i efelychu cariad Jehofa drwy’r ffordd rydyn ni’n trin ein teuluoedd, ein cyd-addolwyr, ac eraill. (1In 4:11) Drwy ddangos cariad, rydyn ni’n helpu eraill i ddod i adnabod Jehofa ac i nesáu ato. Ond os dydyn ni ddim yn dangos cariad, efallai bydden nhw’n ei chael hi’n anodd teimlo cariad Jehofa.

Dangosa’r FIDEO Daethon Ni o Hyd i Gariad Cristnogol yn Nheulu Jehofa. Yna, gofynna’r gynulleidfa:

Beth wnest ti ei ddysgu o brofiad Lei Lei a Mimi ynglŷn â’r pwysigrwydd o ddangos cariad?

Beth gallwn ni ei wneud i helpu ein brodyr a’n chwiorydd deimlo cariad Jehofa?

  • Ystyria nhw fel defaid gwerthfawr Jehofa.—Sal 100:3.

  • Siarada â nhw mewn ffordd adeiladol.—Eff 4:29.

  • Dangosa gydymdeimlad. —Mth 7:​11, 12.

8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa

(30 mun.) lff gwers 46

Sylwadau i Gloi (3 mun.) | Cân 51 a Gweddi