Ionawr 8-14
JOB 34-35
Cân 30 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
1. Pan Mae Bywyd yn Ymddangos yn Annheg
(10 mun.)
Cofia nid Jehofa yw Ffynhonnell anghyfiawnder (Job 34:10; wp19.1 8 ¶2)
Er ei bod hi’n ymddangos bod y rhai drwg yn osgoi cosb, dydyn nhw ddim yn gallu cuddio oddi wrth Jehofa (Job 34:21-26; w17.04 10 ¶5)
Y ffordd orau o helpu’r rhai sy’n dioddef anghyfiawnder yw eu dysgu nhw am Jehofa (Job 35:9, 10; Mth 28:19, 20; w21.05 7 ¶19-20)
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
Job 35:7—Beth roedd Elihw yn ei olygu pan ofynnodd i Job: “Beth mae [Duw yn] ei dderbyn gen ti?” (w17.04 29 ¶3)
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Job 35:1-16 (th gwers 10)
4. Dechrau Sgwrs
(3 mun.) O DŶ I DŶ. Cynigia astudiaeth Feiblaidd. (lmd gwers 10 pwynt 3)
5. Dechrau Sgwrs
(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Dangosa i rywun sydd â phlant ifanc sut i ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol i rieni ar jw.org. (lmd gwers 1 pwynt 4)
6. Gwneud Disgyblion
(5 mun.) lff gwers 13 pwynt 5 (lmd gwers 11 pwynt 3)
Cân 58
7. Wyt Ti’n Awyddus i Bregethu’r Gair yn Anffurfiol?
(15 mun.) Trafodaeth.
Dywedodd Paul wrth Timotheus: “Pregetha’r gair; gwna hynny’n selog.” (2Ti 4:2) Roedd y ferf Roegaidd wreiddiol sy’n cael ei throsi’n ‘selog’ yn yr adnod hon weithiau yn cael ei defnyddio mewn gosodiad milwrol i gyfeirio at filwr a oedd angen bod ar wyliadwriaeth, ac byddai ef yn wastad yn barod i weithredu. Mae’r ymadrodd yn disgrifio ein hawydd ni i wastad bod yn effro i gyfleoedd sy’n codi i droi sgwrs gyffredin yn gyfle i dystiolaethu.
Mae ein cariad at Jehofa a’r gwerthfawrogiad am yr hyn mae wedi ei wneud ar ein cyfer yn ein hysgogi ni i ddweud wrth eraill am ei rinweddau hyfryd.
Darllen Salm 71:8. Yna, gofynna i’r gynulleidfa:
Pa bethau da am Jehofa wyt ti’n hoffi rhannu ag eraill?
Mae’n cariad tuag at eraill hefyd yn ein hysgogi ni i dystiolaethu’n anffurfiol.
Dangosa’r FIDEO Sut Dysgodd Cannoedd y Gwir. Yna, gofynna i’r gynulleidfa:
Sut gwnaeth cannoedd ddod o hyd i’r gwir o ganlyniad i dystiolaeth anffurfiol?
Sut gwnaeth cyn-aelodau eglwys elwa ar ddysgu’r gwir?
Sut mae cariad tuag at bobl yn ein cymell ni i dystiolaethu’n anffurfiol?
Pam rwyt ti’n meddwl bod tystiolaethu’n anffurfiol yn ffordd effeithiol o helpu eraill i ddod i adnabod Jehofa?