Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Chwefror 3-9

SALMAU 144-146

Chwefror 3-9

Cân 145 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)

TRYSORAU O AIR DUW

1. Hapus Ydy’r Bobl Sy’n Addoli Jehofa!

(10 mun.)

Mae Jehofa’n bendithio’r rhai sy’n dibynnu arno (Sal 144:​11-15; w18.04-E 32 ¶3-4)

Rydyn ni’n llawenhau yn ein gobaith (Sal 146:5; w22.10 28 ¶16-17)

Bydd pobl Jehofa yn hapus am byth (Sal 146:10; w18.01 26 ¶19-20)

Pan ydyn ni’n gwasanaethu Jehofa yn ffyddlon, gallwn ni fod yn hapus er gwaethaf ein problemau

2. Cloddio am Drysor Ysbrydol

(10 mun.)

  • Sal 145:​15, 16—Sut dylai’r adnodau hyn effeithio ar y ffordd rydyn ni’n trin anifeiliaid? (it-1-E 111 ¶9)

  • Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?

3. Darlleniad o’r Beibl

(4 mun.) Sal 144:​1-15 (th gwers 11)

RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH

4. Dechrau Sgwrs

(4 mun.) O DŶ I DŶ. Mae’r person yn dweud wrthot ti ei fod yn astudio yn y brifysgol. (lmd gwers 1 pwynt 5)

5. Parhau â’r Sgwrs

(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Cyflwyna a thrafod fideo o’r Bocs Tŵls Dysgu. (lmd gwers 7 pwynt 4)

6. Anerchiad

(4 mun.) lmd atodiad A pwynt 7—Thema: Dylai Wraig Barchu Ei Gŵr. (th gwers 1)

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cân 59

7. Mae Jehofa Eisiau iti Fod yn Hapus

(10 mun.) Trafodaeth.

Jehofa ydy’r Duw hapus. (1Ti 1:11) Mae’r ffaith ei fod wedi rhoi cymaint o anrhegion inni eu mwynhau yn dangos ei fod yn ein caru ac eisiau inni fod yn hapus. (Pre 3:​12, 13) Ystyria ddau o’r anrhegion hyn—bwyd a’r gallu i glywed.

Dangosa’r FIDEO Creation Proves That Jehovah Wants Us to Rejoice—Delicious Food and Delightful Sounds. Yna gofynna i’r gynulleidfa:

  • Sut mae bwyd a’r gallu i glywed yn profi bod Jehofa eisiau iti fod yn hapus?

Darllen Salm 32:8. Yna gofynna i’r gynulleidfa:

  • Sut mae gwybod bod Jehofa eisiau iti fod yn hapus yn dy ysgogi di i ddilyn y cyngor mae’n ei roi drwy ei Air a’i gyfundrefn?

8. Anghenion Lleol

(5 mun.)

9. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa

(30 mun.) bt pen. 10 ¶5-12

Sylwadau i Gloi (3 mun.) | Cân 47 a Gweddi