Ionawr 27–Chwefror 2
SALMAU 140-143
Cân 44 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
1. Gwna Bopeth Elli Di ar ôl Gweddïo am Help
(10 mun.)
Bydda’n fodlon i dderbyn cyngor (Sal 141:5; w22.02 12 ¶13-14)
Myfyria ar sut mae Jehofa wedi dy helpu di a’i bobl yn y gorffennol (Sal 143:5; w10-E 3/15 32 ¶4)
Ceisia ystyried pethau yn yr un ffordd â Jehofa (Sal 143:10; w15-E 3/15 32 ¶2)
Mae Salmau 140-143 yn sôn nid yn unig am weddïau Dafydd am help, ond hefyd am sut gwnaeth ef weithredu’n unol â’i weddïau.
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
-
Sal 140:3—Pam mae Dafydd yn cymharu tafodau pobl ddrwg â thafodau nadroedd? (it-2-E 1151)
-
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Sal 141:1-10 (th gwers 12)
4. Dechrau Sgwrs
(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Dechreua sgwrs ar ôl helpu rhywun mewn ffordd ymarferol. (lmd gwers 3 pwynt 5)
5. Parhau â’r Sgwrs
(3 mun.) TYSTIOLAETHU’N GYHOEDDUS. Mae’r person yn dweud ei fod yn brysur. (lmd gwers 7 pwynt 3)
6. Egluro Dy Ddaliadau
(5 mun.) Dangosiad. ijwfq erthygl 21—Thema: Pam Nad yw Tystion Jehofa yn Derbyn Trallwysiadau Gwaed? (th gwers 7)
Cân 141
7. Bydda’n Barod i Wynebu Sefyllfaoedd Sy’n Gofyn am Ofal Meddygol
(15 mun.) Trafodaeth.
Mae Jehofa’n addo ei fod “bob amser yna i’n helpu pan mae trafferthion.” (Sal 46:1) Gall fod yn anodd i ddelio â sefyllfaoedd sy’n gofyn am ofal meddygol. Ond, mae Jehofa wedi darparu popeth sydd ei angen arnon ni i wneud hyn yn llwyddiannus. Er enghraifft, mae ei gyfundrefn wedi rhoi inni’r dogfennau Advance Decision ac Identity Card, a yn ogystal â dogfennau eraill sy’n cynnwys gwybodaeth feddygol, b a hefyd y Pwyllgorau Cyswllt Ysbytai (HLC). Mae’r rhain yn ein helpu ni i fod yn ufudd ynglŷn â safbwynt Duw am waed.—Act 15:28, 29.
Dangosa’r FIDEO Are You Prepared for Medical Situations? Yna gofynna i’r gynulleidfa:
-
Sut mae rhai wedi elwa o lenwi’r ddogfen Advance Decision?
-
Sut mae’r ddogfen Information for Expectant Mothers (S-401) wedi helpu rhai?
-
Hyd yn oed os nad wyt ti’n meddwl bydd y mater o waed yn codi, pam mae’n bwysig i gysylltu â’r HLC yn gyflym os oes angen aros yn yr ysbyty, cael llawdriniaeth, neu therapi, fel triniaeth canser?
8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa
(30 mun.) bt pen. 10 ¶1-4, blwch ar t.79
Sylwadau i Gloi (3 mun.) | a Gweddi
a Gall cyhoeddwyr sydd wedi cael eu bedyddio ofyn i’r gwas llenyddiaeth am ddogfen Advance Decision iddyn nhw eu hunain yn ogystal ag Identity Card i’w plant dan oed.
b Os oes angen, gelli di ofyn i’r henuriaid am gopi o’r dogfennau Information for Expectant Mothers (S-401), Information for Patients Requiring Surgery or Chemotherapy (S-407), neu Information for Parents Whose Child Requires Medical Treatment (S-55).