Ionawr 6-12
SALMAU 127-134
Cân 134 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
1. Rieni—Parhewch i Ofalu am Eich Anrheg Werthfawr
(10 mun.)
Gall rhieni ddibynnu ar help Jehofa i ofalu am anghenion y teulu (Sal 127:1, 2)
Mae plentyn yn rhodd werthfawr oddi wrth Jehofa (Sal 127:3; w21.08 5 ¶9)
Hyfforddwch eich plentyn yn ôl ei anghenion unigol (Sal 127:4; w19.12 26 ¶20)
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
-
Sal 128:3—Pam mae’r salmydd yn cymharu meibion â blagur ar goeden olewydd? (it-1-E 543)
-
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Sal 132:1-18 (th gwers 2)
4. Dechrau Sgwrs
(3 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. (lmd gwers 1 pwynt 3)
5. Dechrau Sgwrs
(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Mae’r person yn dweud ei fod yn credu rhywbeth sy’n mynd yn erbyn dysgeidiaeth y Beibl. (lmd gwers 5 pwynt 4)
6. Gwneud Disgyblion
(5 mun.) lff gwers 16 pwyntiau 4-5. Trafoda gyda dy fyfyriwr pa drefniadau rwyt ti wedi eu gwneud am ei astudiaeth tra dy fod ti i ffwrdd. (lmd gwers 10 pwynt 4)
Cân 13
7. Rieni—A Ydych Chi’n Defnyddio’r Dull Dysgu Effeithiol Hwn?
(15 mun.) Trafodaeth.
Mae cyfundrefn Jehofa wedi darparu llawer o erthyglau, fideos, a chyhoeddiadau i helpu rhieni i ddysgu eu plant am Jehofa. Ond, un o’r tŵls mwyaf effeithiol y gall rhieni ei ddefnyddio yw eu hesiampl eu hunain.—De 6:5-9.
Defnyddiodd Iesu y tŵl pwerus hwn i ddysgu ei ddisgyblion.
Darllen Ioan 13:13-15. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
-
Pam roedd ffordd Iesu o ddysgu yn effeithiol?
Fel rhiant, gall dy weithredoedd gefnogi’r hyn rwyt ti’n ei ddweud wrth dy blentyn. Gall gosod esiampl dda ar gyfer dy blant eu helpu nhw i dy barchu di ac i wrando arnat ti.
Dangosa’r FIDEO Teaching Our Children by Example. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
-
Pa wersi pwysig ddysgodd y Brawd a’r Chwaer Garcia i’w merched?
-
Sut mae’r fideo hwn yn dy gymell di i barhau i osod esiampl dda ar gyfer dy blant?
8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa
(30 mun.) bt pen. 9 ¶1-7, cyflwyniad i ran 3, a’r blwch ar t. 70