Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Wyt Ti’n Defnyddio JW Library?

Wyt Ti’n Defnyddio JW Library?

Ap (rhaglen gyfrifiadurol) am ddim yw JW Library. Mae’n dy alluogi di i lawrlwytho ein llenyddiaeth, fideos, clipiau sain, a’r Beibl i dy ffôn, tabled, neu dy gyfrifiadur.

SUT I GAEL HYD IDDO: Cysyllta â’r we, a defnyddia dy siop apiau i lawrlwytho JW Library. Mae’r ap ar gael ar amryw o ddyfeisiau. Tra bo cysylltiad we ar gael, agora’r ap a dewisa beth rwyt ti eisiau ei lawrlwytho i dy ddyfais. Os nad wyt ti’n medru cysylltu â’r we gartref, efallai bod modd gwneud hynny yn Neuadd y Deyrnas, llyfrgell gyhoeddus, neu gaffi. Unwaith mae’r llenyddiaeth wedi ei lawrlwytho i dy ddyfais, nid oes angen cysylltiad â’r we i’w defnyddio. Gan fod yr ap JW Library yn cael ei ddiweddaru’n aml, dylet ti gysylltu â’r we o bryd i’w gilydd a diweddaru’r ap.

PAM DEFNYDDIO’R AP? Mae JW Library yn medru hwyluso astudiaeth bersonol ac mae’n ddefnyddiol ar gyfer dilyn y cyfarfodydd. Mae’r ap hefyd yn ddefnyddiol ar y weinidogaeth, yn enwedig wrth dystiolaethu’n anffurfiol.