Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

TRYSORAU O AIR DUW | SALMAU 11-18

Pwy a Gaiff Aros ym Mhabell Jehofa?

Pwy a Gaiff Aros ym Mhabell Jehofa?

Mae cael aros, neu fod yn westai, ym mhabell Jehofa yn golygu bod rhywun yn ffrind i Dduw, un sy’n ymddiried ynddo ac yn ufuddhau iddo. Mae Salm 15 yn disgrifio’r hyn y mae Jehofa yn edrych amdano mewn ffrind.

MAE RHAID I WESTEION JEHOFA . . .

  • fod yn ffyddlon

  • ddweud y gwir, a hynny yn eu calonnau hefyd

  • barchu cyd-weision Jehofa

  • gadw eu gair, hyd yn oed pan fo hynny’n anodd

  • helpu’r rhai mewn angen heb ddisgwyl unrhyw beth yn ôl

MAE GWESTEION JEHOFA YN OSGOI . . .

  • cario clecs a lladd ar bobl eraill

  • gwneud yr hyn sy’n ddrwg i’w cymdogion

  • cymryd mantais o’u brodyr Cristnogol

  • cymdeithasu gyda’r rhai sydd ddim yn gwasanaethu Jehofa neu ddim yn ufuddhau iddo

  • derbyn cildwrn