EIN BYWYD CRISTNOGOL
Ffyrdd o Ddefnyddio JW Library
AR GYFER ASTUDIO:
-
Darllen y Beibl a thestun y dydd.
-
Darllen y Yearbook, y cylchgronau, a chyhoeddiadau eraill. Gosod dalenodau
-
Paratoi ar gyfer cyfarfodydd y gynulleidfa, ac amlygu’r atebion
-
Gwylio’r fideos
YN Y CYFARFODYDD:
-
Troi at yr adnodau y mae’r siaradwr yn cyfeirio atyn nhw. Defnyddio’r nodwedd hanes i ddychwelyd at adnod
-
Yn lle dod â llond bag o gyhoeddiadau printiedig i’r cyfarfod, defnyddia dy ddyfais i ddilyn y rhannau gwahanol ac i ganu’r caneuon. Mae gan JW Library y caneuon sydd heb ymddangos yn y llyfr caneuon printiedig eto
YN Y WEINIDOGAETH:
-
Pan fo unigolyn yn mynegi diddordeb, dangosa rywbeth o JW Library iddyn nhw, ac yna ei helpu i lawrlwytho’r ap a’r cyhoeddiadau i’w ddyfais ei hun
-
Defnyddio’r nodwedd chwilio i gael hyd i adnod yn y Beibl. Os nad oes modd ddod o hyd i ymadrodd yn y New World Translation diwygiedig, yna chwilia amdano eto yn y Reference Bible
-
Dangos fideo. Os oes gan y deiliad blant, cei di chwarae un o’r fideos Dod yn Ffrind i Jehofa. Neu gei di ddangos y fideo Pam Astudio’r Beibl? i sbarduno diddordeb mewn astudio’r Beibl. Os mae rhywun yn siarad iaith arall, dangos y fideo yn ei iaith nhw
-
Dangos ysgrythur i rywun mewn iaith arall gan ddefnyddio cyfieithiad sydd wedi ei lawrlwytho gen ti yn barod. Tro at yr ysgrythur, taro rhif yr adnod, yna taro’r eicon gwedd gyfochrog