Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Yr Hyn Mae Duw Wedi ei Uno . . .

Yr Hyn Mae Duw Wedi ei Uno . . .

Roedd Cyfraith Moses yn gofyn i ddyn oedd yn ystyried ysgaru i baratoi tystysgrif gyfreithiol. Pwrpas hyn oedd rhwystro gwŷr rhag dod â’r briodas i ben ar hast. Ond, yn amser Iesu, roedd yr arweinwyr crefyddol yn ei gwneud hi’n hawdd cael ysgariad. Roedd dynion yn gallu ysgaru eu gwragedd am bob math o resymau. (“certificate of dismissal” nodyn astudio ar Mc 10:4, nwtsty-E; “divorces his wife,” “commits adultery against her” nodiadau astudio ar Mc 10:11, nwtsty-E) Tynnodd Iesu sylw at y ffaith fod priodas wedi ei hawdurdodi a’i sefydlu gan Jehofa. (Mc 10:2-12) Roedd gŵr a gwraig i gael eu huno’n barhaol fel un cnawd. Yn ôl hanes cyfochrog Mathew, yr unig sail Ysgrythurol dros ysgaru yw anfoesoldeb rhywiol.—Mth 19:9.

Heddiw, mae llawer yn meddwl fel y Phariseaid, nid fel Iesu. Pan ddaw problemau, mae pobl y byd yn rhuthro i ysgaru. Mae cyplau Cristnogol, ar y llaw arall, yn cymryd eu haddunedau priodas o ddifri ac yn ceisio delio â phroblemau drwy roi egwyddorion y Beibl ar waith. Ar ôl gwylio’r fideo Love and Respect Unites Families, ateba’r cwestiynau canlynol:

  • Sut gelli di roi Diarhebion 15:1 ar waith yn dy briodas, a pham mae hyn yn bwysig?

  • Sut gelli di osgoi problemau drwy roi Diarhebion 19:11 ar waith?

  • Os yw’n ymddangos bod dy briodas ar fin chwalu, yn lle meddwl, ‘A ddylwn i ysgaru?’ pa gwestiynau dylet ti eu hystyried?

  • Sut gelli di fod yn ŵr neu’n wraig well drwy roi Mathew 7:12 ar waith?