Gweledigaeth Sy’n Cryfhau Ffydd
Dychmyga brofiad Iesu yn ystod gweledigaeth ei weddnewidiad pan glywodd ei Dad nefol yn cyhoeddi Ei fod wedi ei blesio’n llwyr ganddo. Heb unrhyw amheuaeth byddai hyn wedi atgyfnerthu Iesu ar gyfer y dioddef roedd am ei brofi. Hefyd, creodd y weledigaeth argraff ddofn ar Pedr, Iago, ac Ioan. Yn wir, Iesu oedd y Meseia, ac roedden nhw yn iawn i wrando arno ef. Tua 32 o flynyddoedd wedyn, roedd Pedr yn dal i gofio’r profiad a sut roedd hwnnw wedi cadarnhau “neges y proffwydi” iddo.—2Pe 1:16-19.
Er na welson ni mo’r weledigaeth hynod, rydyn ni’n gweld ei chyflawniad heddiw. Mae Iesu nawr yn Frenin pwerus sydd wrthi’n teyrnasu. Yn fuan, bydd yn “ennill y frwydr,” gan agor y ffordd ar gyfer byd newydd cyfiawn.—Dat 6:2.
Sut mae gweld proffwydoliaethau’r Beibl yn cael eu cyflawni wedi atgyfnerthu dy ffydd?