EIN BYWYD CRISTNOGOL
Disgyblaeth—Mynegiant o Gariad Jehofa
Gan amlaf mae disgyblaeth yn ymwneud â hyfforddi a dysgu, ond mae hefyd yn cynnwys cywiro a chosbi. Mae Jehofa yn ein disgyblu er mwyn i’n haddoliad fod yn dderbyniol iddo. (Rhu 12:1; Heb 12:10, 11) Ar adegau, gall disgyblaeth fod yn boenus, ond mae’n arwain at gyfiawnder a bendithion. (Dia 10:7) Beth ddylai’r rhai sy’n rhoi disgyblaeth a’r rhai sy’n ei derbyn gadw mewn cof?
Yr un sy’n rhoi. Mae henuriaid, rhieni, ac eraill yn ceisio’n galed i efelychu Jehofa drwy roi disgyblaeth yn garedig ac yn gariadus. (Jer 46:28) Dylai hyd yn oed disgyblaeth gadarn gael ei rhoi yn ôl yr angen a chael ei chymell gan gariad.—Tit 1:13.
Yr un sy’n derbyn. Dim ots yma mha ffurf rydyn ni’n cael ein disgyblu, ddylen ni ddim gwrthod y ddisgyblaeth ond ceisio ei rhoi ar waith yn syth. (Dia 3:11, 12) Fel pobl amherffaith, rydyn ni i gyd angen disgyblaeth, sy’n dod mewn sawl ffurf. Gallen ni gael ein disgyblu gan rywbeth rydyn ni’n ei ddarllen yn y Beibl neu’n ei glywed yng nghyfarfodydd y gynulleidfa. Ond ar adegau, mae rhai angen cael eu disgyblu gan bwyllgor barnwrol. Yn y pen draw, mae derbyn disgyblaeth a’i rhoi ar waith yn arwain at fywyd.—Dia 10:17.
GWYLIA’R FIDEO MAE JEHOFA “YN DISGYBLU’R RHAI MAE’N EU CARU,” AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Pa fath o fywyd oedd gan Canon ar y dechrau, a sut gwnaeth ei fywyd newid?
-
Pa ddisgyblaeth gariadus dderbyniodd ef gan Jehofa?
-
Pa wersi gallwn ni eu dysgu o’i brofiad?