Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Bod yn Barod yn Ystod Diwedd y Dyddiau Diwethaf

Bod yn Barod yn Ystod Diwedd y Dyddiau Diwethaf

Wrth inni ddioddef diwedd y dyddiau diwethaf, rydyn ni’n disgwyl i drafferthion gynyddu a gwaethygu. (2Ti 3:1; “pangs of distress” nodyn astudio ar Mth 24:8, nwtsty-E) Wrth wynebu trychinebau, mae pobl Jehofa yn aml yn derbyn arweiniad amserol sy’n achub bywydau. Efallai bydd goroesi bryd hynny yn dibynnu ar baratoi’n ufudd nawr, yn ysbrydol ac yn gorfforol.—Lc 16:10.

  • Paratoi yn ysbrydol: Datblyga raglen ysbrydol dda. Dysga i wneud gwahanol fathau o weinidogaeth. Paid â phanicio os wyt ti’n cael dy wahanu oddi wrth eraill yn y gynulleidfa. (Esei 30:15) Dwyt ti byth wedi dy ynysu oddi wrth Jehofa a Iesu.—od-E 176 ¶15-17

  • Paratoi yn gorfforol: Yn ogystal â bagiau argyfwng, dylai pob teulu gadw storfa resymol o fwyd, dŵr, meddyginiaeth, a phethau tebyg rhag ofn bod angen aros mewn un lle am gyfnod estynedig.—Dia 22:3; g17.5-E 46

GWYLIA’R FIDEO WYT TI WEDI PARATOI AR GYFER TRYCHINEB NATURIOL?, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Sut gallwn ni baratoi’n ysbrydol ar gyfer trychineb?

  • Pam mae’n bwysig i . . .

    • gyfathrebu’n dda â’r henuriaid?

    • paratoi bag argyfwng?

    • adolygu’r gwahanol fathau o drychinebau a allai ddigwydd a beth dylen ni ei wneud ym mhob sefyllfa?

  • Pa dri pheth gallwn ni eu gwneud i helpu rhai sy’n dioddef ar ôl trychineb?

GOFYNNA I TI DY HUN: ‘Pa wersi ynglŷn â bod yn barod galla i eu dysgu o’r pandemig COVID-19?’