Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Dangosa Gariad yn y Teulu

Dangosa Gariad yn y Teulu

Cariad yw’r glud sy’n cadw teulu at ei gilydd. Heb gariad, bydd hi’n anodd i deulu aros yn unedig a chyd-dynnu. Sut gall gwŷr, gwragedd, a rhieni ddangos cariad yn y teulu?

Bydd gŵr cariadus yn ystyried anghenion, safbwynt, a theimladau ei wraig. (Eff 5:28, 29) Bydd ef hefyd yn gofalu am anghenion corfforol ac ysbrydol ei deulu, gan gynnwys cynnal noson Addoliad Teuluol yn rheolaidd. (1Ti 5:8) Bydd gwraig gariadus yn ymostwng i’w gŵr a dangos parch dwfn tuag ato. (Eff 5:22, 33, BCND; 1Pe 3:1-6) Mae’n rhaid i’r ddau gymar fod yn barod i faddau i’w gilydd yn hael. (Eff 4:32) Mae rhieni cariadus yn dangos diddordeb personol ym mhob un o’u plant ac yn eu dysgu nhw i garu Jehofa. (De 6:6, 7; Eff 6:4) Pa heriau mae eu plant yn eu hwynebu yn yr ysgol? Ydyn nhw’n ymdopi â phwysau gan gyfoedion? Pan fydd teulu yn llawn cariad, bydd pob aelod yn teimlo’n saff ac yn ddiogel.

GWYLIA’R FIDEO DANGOSA GARIAD DIDDARFOD YN Y TEULU, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Sut mae gŵr cariadus yn bwydo ac yn trysori ei wraig?

  • Sut mae gwraig gariadus yn dangos parch dwfn tuag at ei gŵr?

  • Sut mae rhieni cariadus yn dysgu gair Duw i’w plant?