EIN BYWYD CRISTNOGOL
Gwna Benderfyniadau Doeth Ynglŷn ag Alcohol
Mae’n rhaid i bob Cristion ddangos hunanreolaeth ynglŷn ag yfed alcohol. (Dia 23:20, 29-35; 1Co 6:9, 10) Os ydy Cristion yn penderfynu yfed, dylai wneud hynny’n gymedrol. Hefyd, mae’n rhaid iddo osgoi dibynnu ar alcohol a pheidio â baglu eraill. (1Co 10:23, 24; 1Ti 5:23) Yn bendant, ddylai neb, yn enwedig rhai ifanc, deimlo dan bwysau i yfed alcohol.
DANGOSA’R ANIMEIDDIAD BWRDD GWYN YSTYRIED CYN YFED, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Pam mae’n rhaid i bob Cristion ufuddhau i gyfreithiau ynglŷn ag alcohol?—Rhu 13:1-4
-
Pam na ddylen ni adael i eraill roi pwysau arnon ni i yfed alcohol?—Rhu 6:16
-
Sut gallwn ni osgoi’r maglau sy’n gysylltiedig ag alcohol?