Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH | CAEL MWY O LAWENYDD YN Y WEINIDOGAETH

Dysga’n Frwdfrydig

Dysga’n Frwdfrydig

Mae brwdfrydedd yn heintus. Mae’n gallu dal sylw ein gwrandawyr. Mae hefyd yn dangos ein bod ni’n trysori ein neges. Gallwn ni feithrin brwdfrydedd ni waeth beth ydy ein cefndir neu’n personoliaeth. (Rhu 12:11) Sut?

Yn gyntaf, meddylia am bwysigrwydd dy neges. Mae gen ti’r fraint o ‘gyhoeddi’r newyddion da.’ (Rhu 10:15) Yn ail, myfyria ar yr effaith bositif gall y newyddion da ei chael ar dy wrandawyr. Maen nhw wir angen clywed beth sydd gen ti i’w ddweud. (Rhu 10:13, 14) Yn olaf, siarada’n selog, gan symud yn naturiol a dangos yn dy wyneb dy fod ti’n ddiffuant.

GWYLIA’R FIDEO CAEL LLAWENYDD DRWY WNEUD DISGYBLION—HOGI DY SGILIAU—DYSGU’N FRWDFRYDIG, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Beth oedd yn achosi i Neeta golli ei brwdfrydedd am astudio’r Beibl gyda Lili?

  • Beth helpodd Neeta i fod yn frwdfrydig unwaith eto?

  • Mae brwdfrydedd yn heintus

    Pam dylen ni ganolbwyntio ar rinweddau da ein gwrandawyr?

  • Pa effaith gall ein brwdfrydedd ei chael ar ein myfyrwyr Beiblaidd ac ar eraill?