EIN BYWYD CRISTNOGOL
“Mae Cariad . . . yn Gobeithio i’r Eithaf”
Wedi ein cymell gan gariad, rydyn ni’n gobeithio bydd ein brodyr yn gwneud penderfyniadau da. (1Co 13:4, 7) Er enghraifft, os ydy brawd yn pechu ac yn cael ei ddisgyblu, rydyn ni’n gobeithio y bydd yn ymateb i ymdrechion i’w gywiro. Rydyn ni’n amyneddgar gyda’r rhai sy’n wan yn y ffydd, ac yn ceisio eu helpu. (Rhu 15:1) Os ydy rhywun yn gadael y gynulleidfa, dydyn ni byth yn stopio gobeithio y bydd yn dod yn ôl ryw ddydd.—Lc 15:17, 18.
GWYLIA’R FIDEO COFIA SUT MAE CARIAD YN YMDDWYN—MAE’N GOBEITHIO I’R EITHAF, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
I bwy oedd Abner yn ffyddlon, a sut gwnaeth hynny newid?
-
Sut ymatebodd Dafydd a Joab yn wahanol i gais Abner?
-
Pam dylen ni obeithio bydd ein brodyr yn gwneud penderfyniadau da?