Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Wyt Ti Wedi Paratoi ar Gyfer Aflonyddwch Sifil?

Wyt Ti Wedi Paratoi ar Gyfer Aflonyddwch Sifil?

Wrth i ddiwedd y system hon agosáu, rydyn ni’n disgwyl i aflonyddwch sifil, terfysgaeth, a rhyfel gynyddu. (Dat 6:4) Sut gallwn ni baratoi ar gyfer heriau’r dyfodol?

  • Paratoi’n ysbrydol: Ceisia ddod o hyd i egwyddorion a hanesion yn y Beibl sy’n cryfhau dy hyder yn Jehofa a’i gyfundrefn ac sy’n dy helpu di i aros yn niwtral. (Dia 12:5; jr-E 125-126 ¶23-24) Nawr yw’r amser i wneud ffrindiau da yn y gynulleidfa.—1Pe 4:7, 8

  • Paratoi’n ymarferol: Gwna gynllun rhag ofn bod rhaid iti aros gartref, a sicrha bod gen ti bopeth sydd ei angen arnat ti i gadw’n iach. Hefyd, gwna gynllun rhag ofn bod rhaid iti adael dy gartref. Adolyga beth sydd yn dy fag argyfwng, gan gynnwys pethau fel menig, masgiau, ac arian. Gwna’n siŵr bod gen ti fanylion cyswllt yr henuriaid a bod ganddyn nhw dy fanylion di.—Esei 32:2; g17.5-E 3-7

Yn ystod aflonyddwch, cadwa at dy rwtîn ysbrydol. (Php 1:10) Paid â symud o un lle i’r llall oni bai ei fod yn angenrheidiol. (Mth 10:16) Rhanna’r bwyd a phethau eraill sydd gen ti gydag eraill.—Rhu 12:13.

GWYLIA’R FIDEO WYT TI WEDI PARATOI AR GYFER TRYCHINEB? AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Sut gall Jehofa ein helpu ni yn ystod trychineb?

  • Pa gamau ymarferol gallwn ni eu cymryd i baratoi?

  • Sut gallwn ni helpu eraill sydd wedi eu heffeithio gan drychinebau?