Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Defnyddia Ddigwyddiadau Diweddar yn Dy Weinidogaeth

Defnyddia Ddigwyddiadau Diweddar yn Dy Weinidogaeth

Defnyddiodd Iesu ddigwyddiadau diweddar i ddysgu gwersi yn ei weinidogaeth. (Lc 13:1-5) Gelli di wneud yr un fath i ennyn diddordeb pobl yn neges y Deyrnas. Ar ôl sôn am gostau byw, trychineb naturiol, aflonyddwch sifil, camddefnydd o gyffuriau, neu rywbeth tebyg, gofynna gwestiwn diddorol. Gelli di ofyn: “Ydych chi’n meddwl gwnawn ni weld diwedd ar . . . ?” neu “Yn eich barn chi, beth ydy’r ateb i . . . ?” Yna, rhanna adnod o’r Beibl ar y pwnc. Os ydy’r person yn dangos diddordeb, cyfeiria nhw at fideo neu gyhoeddiad o’n Bocs Tŵls Dysgu. Wrth inni geisio cyffwrdd â chalonnau pobl yn ein tiriogaeth, rydyn ni eisiau “gwneud hyn i gyd er mwyn y newyddion da.”—1Co 9:22, 23.

Pa bynciau fydd yn apelio at bobl yn dy diriogaeth di?