Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cadw Dy Chwantau o dan Reolaeth

Cadw Dy Chwantau o dan Reolaeth

Oherwydd ein bod ni’n amherffaith, rydyn ni o hyd yn gorfod brwydro i reoli ein chwantau. Os nad ydyn ni’n gwneud hynny, gallen ni golli ffafr Jehofa. Er enghraifft, mae rhai pobl yn caru bwyd, dillad, a’u cartrefi yn fwy na charu Duw. Mae eraill yn bodloni eu chwant rhywiol mewn ffordd sy’n mynd yn erbyn safonau Duw. (Rhu 1:26, 27) Tra bod eraill yn ildio i bwysau gan gyfoedion gan eu bod nhw eisiau i bobl eu hoffi a’u derbyn nhw. —Ex 23:2.

Sut gallwn ni reoli ein chwantau? Mae’n rhaid inni wneud ein gorau i ganolbwyntio ar bethau ysbrydol. (Mth 4:4) Hefyd, dylen ni erfyn ar Jehofa i’n helpu ni i reoli ein chwantau. Pam? Oherwydd mae’n gwybod beth sydd orau inni a sut i’n bodloni ni yn y ffordd iawn.—Sal 145:16.

GWYLIA’R FIDEO PAID Â GADAEL I DY FYWYD DDIFLANNU MEWN MWG, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pam mae rhai pobl yn ysmygu?

  • Pa effaith gall ysmygu ei chael arnat ti?

  • Pam mae ysmygu a fepio yn anghywir?—2Co 7:1

  • Gelli di wrthod y temtasiwn i ysmygu!

    Sut gelli di wrthod ysmygu neu hyd yn oed stopio ysmygu?