Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Defnyddia Mwynhewch Fywyd am Byth! i Adeiladu Ffydd yn Jehofa ac Iesu

Defnyddia Mwynhewch Fywyd am Byth! i Adeiladu Ffydd yn Jehofa ac Iesu

Er mwyn plesio Duw, mae’n rhaid i fyfyrwyr y Beibl ddatblygu ffydd gref. (Heb 11:6) Gallwn ni gyffwrdd â’u calonnau drwy ddefnyddio’r llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! Mae’r llyfr astudio hwn yn cynnwys Ysgrythurau pwysig, rhesymu clir, cwestiynau effeithiol, fideos calonogol, a lluniau prydferth. Drwy helpu myfyrwyr i feithrin rhinweddau Cristnogol a chael perthynas dda â Duw, rydyn ni’n adeiladu gyda deunydd da.—1Co 3:12-15.

Mae rhai pobl yn ei chael hi’n anodd dychmygu bod yn ffrind i Dduw gan ei fod yn anweledig. Felly mae’n rhaid inni eu helpu nhw i ddod i adnabod Jehofa a’i drystio.

GWYLIA’R FIDEO ADEILADA FFYDD YN JEHOFA GAN DDEFNYDDIO “MWYNHEWCH FYWYD AM BYTH!” AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Sut rydyn ni’n gwybod paratôdd y chwaer yn dda ar gyfer yr astudiaeth?

  • Sut defnyddiodd hi ychydig o gwestiynau ychwanegol i gael y fyfyrwraig i fynegi ei theimladau am Eseia 41:10, 13?

  • Pa effaith gafodd y fideo ac adnodau’r Beibl ar y fyfyrwraig?

Dydy llawer o bobl ddim yn deall y pridwerth, nac yn ei ystyried yn rhodd bersonol iddyn nhw oddi wrth Dduw. (Ga 2:20) Felly, mae’n rhaid inni eu helpu nhw i adeiladu ffydd yn aberth pridwerthol Iesu.

GWYLIA’R FIDEO ADEILADA FFYDD YN IESU GAN DDEFNYDDIO “MWYNHEWCH FYWYD AM BYTH!” AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Sut rydyn ni’n gwybod paratôdd y brawd yn dda ar gyfer yr astudiaeth?

  • Sut defnyddiodd y brawd y deunydd yn y rhan “Darganfod Mwy” i helpu’r myfyriwr?

  • Pam mae gweddïo yn hanfodol i’r myfyriwr?