Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Gweld Dy Hun o Safbwynt Jehofa

Gweld Dy Hun o Safbwynt Jehofa

‘Mae Jehofa wrth ei fodd gyda’i bobl!’ (Sal 149:4) Er ein bod ni’n amherffaith, mae’n gweld ein rhinweddau da a’n potensial. Ond, ar adegau, mae’n gallu bod yn anodd cadw agwedd gytbwys tuag at ein hunain. Efallai ein bod ni’n teimlo’n ddiwerth oherwydd y ffordd mae eraill yn ein trin ni. Neu, os ydyn ni’n canolbwyntio ar gamgymeriadau’r gorffennol, gallen ni amau cariad Jehofa tuag aton ni. Beth all ein helpu ni pan ydyn teimlo felly?

Cofia fod Jehofa’n gweld mwy na sy’n amlwg i ni. (1Sa 16:7) Mae hynny’n golygu ei fod yn gweld mwy ynon ni nag y gallwn ni ei weld. Ond diolch byth, mae’r Beibl yn ein helpu ni i ddeall safbwynt Jehofa. Mae hyn yn dod yn fwy amlwg inni wrth inni ddarllen adnodau’r Beibl sy’n dangos cymaint mae Jehofa yn caru ei addolwyr.

GWYLIA’R FIDEO PERSWADIA DY GALON O FLAEN JEHOFA, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Beth rydyn ni’n ei ddysgu am safbwynt Jehofa tuag aton ni o’r eglureb am y rhedwr a’i dad?

  • Os ydy rhywun yn cymryd y camau angenrheidiol i adfer ei berthynas â Jehofa ar ôl pechu’n ddifrifol, sut gallai ef sicrhau ei galon o flaen Jehofa?—1In 3:19, 20

  • Sut gwnaeth darllen a myfyrio ar hanesion Dafydd a Jehosaffat helpu’r brawd?