Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Mae Jehofa yn Dad i’r Rhai Heb Dad

Mae Jehofa yn Dad i’r Rhai Heb Dad

Bob blwyddyn, mae llawer o rai ifanc yn dewis bod yn ffrind i Jehofa. (Sal 110:3) Os wyt ti’n un ohonyn nhw, mae Jehofa yn dy garu di’n fawr iawn. Mae’n deall dy fod ti’n wynebu heriau unigryw, ac mae’n addo dy helpu di i’w wasanaethu. Os wyt ti’n cael dy fagu gan riant sengl, cofia fod Jehofa yn addo fod yn dad iti. (Sal 68:5) Gyda hyfforddiant Jehofa, gelli di lwyddo ni waeth beth ydy’r sefyllfa gartref.—1Pe 5:10.

GWYLIA’R FIDEO BRWYDRO’N LLWYDDIANNUS O BLAID Y FFYDD—PLANT SY’N CAEL EU MAGU GAN RIANT SENGL, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Beth rwyt ti’n ei ddysgu oddi wrth Tammy, Charles, a Jimmy?

  • Sut mae Salm 27:10 yn rhoi cysur i’r rhai sy’n cael eu magu gan riant sengl?