EIN BYWYD CRISTNOGOL
Wyt Ti Wedi Paratoi ar Gyfer Creisis Ariannol?
Dydyn ni ddim yn cael ein hysgwyd pan mae digwyddiadau yn y byd yn achosi ansefydlogrwydd ariannol. Pam ddim? Oherwydd rydyn ni’n byw ar ddiwedd y dyddiau olaf ac mae’r Beibl yn ein rhybuddio ni i beidio â rhoi ein gobaith mewn “cyfoeth ansicr.” (1Ti 6:17; 2Ti 3:1) Beth gall esiampl y Brenin Jehosaffat ei ddysgu inni am baratoi ar gyfer creisis ariannol?
Yn wyneb y gelyn, gwnaeth Jehosaffat drystio Jehofa. (2Cr 20:9-12) Gwnaeth ef hefyd baratoi’r genedl drwy atgyfnerthu’r dinasoedd a gosod garsiynau. (2Cr 17:1, 2, 12, 13) Gallwn ni, fel Jehosaffat, drystio Jehofa a chymryd camau ymarferol cyn i bethau fynd yn anodd.
GWYLIA’R FIDEO WYT TI WEDI PARATOI AR GYFER TRYCHINEB? AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Beth gallwn ni ei wneud er mwyn paratoi ar gyfer trychineb?
-
Sut gallwn ni baratoi er mwyn helpu eraill?