Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Wyt Ti’n Gwneud Defnydd Da o’r Fersiwn Sain o’r Beibl?

Wyt Ti’n Gwneud Defnydd Da o’r Fersiwn Sain o’r Beibl?

Beth yw fersiwn sain o’r Beibl? Yn syml, recordiad o Cyfieithiad y Byd Newydd diwygiedig. Mae’n cael ei ryddhau fesul darn mewn cymaint o ieithoedd â phosib. Rhywbeth neis am y fersiwn sain ydy ei fod yn defnyddio llais gwahanol i bob cymeriad. Mae’r geiriau yn cael eu darllen gyda’r pwyslais a’r emosiwn priodol er mwyn trosglwyddo neges y Beibl yn gywir.

Sut mae fersiwn sain o’r Beibl yn helpu rhai? Mae llawer sy’n gwrando’n aml ar y fersiwn sain yn dweud ei fod yn dod â Gair Duw yn fyw iddyn nhw. Wrth iddyn nhw wrando ar lais gwahanol ar gyfer pob cymeriad, maen nhw’n teimlo eu bod nhw’n gallu dychmygu digwyddiadau’r Beibl a deall y geiriau yn well. (Dia 4:5) Mae llawer wedi darganfod bod clywed geiriau’r Beibl yn tawelu eu meddyliau pan maen nhw’n pryderu.—Sal 94:19.

Mae gwrando ar Air Duw yn cael ei ddarllen yn gallu cael effaith fawr arnon ni. (2Cr 34:19-21) Os ydy fersiwn sain o’r Beibl ar gael mewn iaith rwyt ti’n ei deall, beth am wrando arno fel rhan o dy rwtîn ysbrydol?

GWYLIA’R FIDEO PRODUCTION OF THE AUDIO BIBLE—EXCERPT AC YNA ATEBA’R CWESTIWN CANLYNOL:

Sut rwyt ti’n teimlo am y gwaith o gynhyrchu fersiwn sain o’r Beibl?