Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Mai 20-26

SALMAU 40-41

Mai 20-26

Cân 102 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)

TRYSORAU O AIR DUW

1. Pam Helpu Eraill?

(10 mun.)

Mae helpu eraill yn ein gwneud ni’n hapus (Sal 41:1; w18.08 19 ¶16-18)

Mae Jehofa’n helpu’r rhai sy’n helpu eraill (Sal 41:​2-4; w15-E 12/15 24 ¶7)

Rydyn ni’n dod â chlod i Jehofa pan ydyn ni’n helpu eraill (Sal 41:13; Dia 14:31; w17.09 14 ¶17)

GOFYNNA I TI DY HUN: ‘A oes ’na rywun yn fy nghynulleidfa sydd angen help i wneud y gorau o’r ap JW Library?’

2. Cloddio am Drysor Ysbrydol

(10 mun.)

  • Ps 40:​5-10—Beth mae gweddi Dafydd yn ei ddysgu inni am gydnabod sofraniaeth Jehofa? (it-2-E 16)

  • Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?

3. Darlleniad o’r Beibl

(4 mun.) Sal 40:​1-17 (th gwers 12)

RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH

4. Dechrau Sgwrs

(3 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Dechreua sgwrs â rhywun sy’n edrych yn hapus. (lmd gwers 2 pwynt 3)

5. Dechrau Sgwrs

(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Dechreua sgwrs â rhywun sy’n edrych yn drist. (lmd gwers 3 pwynt 5)

6. Gwneud Disgyblion

(5 mun.) lff gwers 14 pwynt 6. Trafoda pwynt o’r erthygl “Mola Jehofa yn y Gynulleidfa,” sydd yn y rhan “Darganfod Mwy,” â myfyriwr sy’n teimlo’n ansicr am gymryd rhan yn y cyfarfodydd. (th gwers 19)

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cân 138

7. Gad Inni Ddangos Daioni Tuag at y Rhai Hŷn

(15 mun.) Trafodaeth.

Mae Jehofa’n gwerthfawrogi’r holl waith ffyddlon mae’r rhai hŷn yn ei wneud yn y gynulleidfa, ac rydyn ninnau hefyd. (Heb 6:10) Dros y blynyddoedd, maen nhw wedi gwneud llawer i ddysgu, hyfforddi, ac annog eu brodyr a’u chwiorydd. Mae’n debyg gelli di feddwl am ffyrdd maen nhw wedi dy helpu di. Sut gelli di ddangos dy fod ti’n gwerthfawrogi popeth maen nhw wedi ei wneud ac yn parhau i’w wneud yn y gynulleidfa?

Dangosa’r FIDEO ‘Gadewch Inni Wneud Daioni i’n Brodyr.’ Yna gofynna i’r gynulleidfa:

  • Beth gwnaeth Ji-Hoon ei ddysgu oddi wrth y Brawd Ho-jin Kang?

  • Beth rwyt ti’n ei drysori am y rhai hŷn yn dy gynulleidfa?

  • Pa wers gallwn ni ei dysgu o’r eglureb am y Samariad trugarog?

  • Pam roedd hi’n syniad da i Ji-Hoon gynnwys eraill wrth helpu’r Brawd Ho-jin Kang?

Pan ydyn ni’n meddwl yn ddwfn am anghenion y rhai hŷn yn y gynulleidfa, gallwn ni weld llawer o gyfleoedd i’w helpu nhw. Pan fyddi di’n gweld angen, ystyria sut gelli di helpu.—Iag 2:​15, 16.

Darllen Galatiaid 6:10. Yna gofynna i’r gynulleidfa:

  • Sut gelli di “wneud yr hyn sy’n dda” i’r rhai hŷn yn dy gynulleidfa?

8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa

(30 mun.) lff gwers 57

Sylwadau i Gloi (3 mun.) | Cân 125 a Gweddi