Mai 27–Mehefin 2
SALMAU 42-44
Cân 86 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
1. Elwa’n Llawn o Addysg Ddwyfol
(10 mun.)
Manteisia ar bob cyfle i addoli Jehofa gydag eraill, wyneb yn wyneb os yw’n bosib (Sal 42:4, 5; w06-E 6/1 9 ¶4)
Gweddïa cyn astudio Gair Duw (Sal 42:8; w12-E 1/15 15 ¶2)
Gad i wirioneddau’r Beibl arwain popeth rwyt ti’n ei wneud (Sal 43:3)
Mae addysg ddwyfol yn ein cryfhau ni, fel ein bod ni’n gallu wynebu treialon a chadw at ein haddewid i wasanaethu Duw am byth.—1Pe 5:10; w16.09 5 ¶11-12.
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
-
Sal 44:19—Beth efallai mae’r ymadrodd “lle mae’r siacaliaid yn byw” yn cyfeirio ato? (it-1-E 1242)
-
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Sal 44:1-26 (th gwers 11)
4. Dechrau Sgwrs
(4 mun.) O DŶ I DŶ. Cynigia astudiaeth Feiblaidd. (lmd gwers 5 pwynt 5)
5. Parhau â’r Sgwrs
(5 mun.) O DŶ I DŶ. Gwahodda’r person i’r anerchiad cyhoeddus nesaf. Cyflwyna a thrafod y fideo Beth Sy’n Digwydd yn Neuadd y Deyrnas? ond paid â’i chwarae. (lmd gwers 7 pwynt 5)
6. Anerchiad
(3 mun.) lmd Atodiad A pwynt 4—Thema: Bydd Gan Bawb Iechyd Perffaith. (th gwers 2)
Cân 21
7. Gwna Benderfyniadau Doeth Ynglŷn â Gwaith ac Addysg
(15 mun.) Trafodaeth.
Bobl ifanc, a ydych chi’n trio penderfynu beth rydych chi am ei wneud ar ôl ichi orffen ysgol uwchradd? Efallai fod gen ti swydd mewn golwg yn barod a fydd yn caniatáu iti arloesi. Neu efallai rwyt ti’n meddwl am fynd ar gwrs er mwyn dysgu sgìl, cael trwydded, neu gael diploma a fydd yn dy helpu di i gael swydd. Mae hyn yn cyfnod cyffrous yn dy fywyd! Ond, gyda chymaint o opsiynau a phwysau i wneud penderfyniad a fydd yn plesio eraill, efallai byddi di’n teimlo bod pethau’n ormod iti. Beth all dy helpu di i wneud penderfyniadau doeth?
Darllen Mathew 6:32, 33. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
-
Pam mae’n beth da i osod amcanion ysbrydol clir cyn gwneud penderfyniadau pwysig ynglŷn â gwaith ac addysg?
-
Sut gall rhieni helpu eu plant i roi Mathew 6:32, 33 ar waith?—Sal 78:4-7
Paid â gadael i awydd am ddiogelwch ariannol neu statws ddylanwadu ar dy benderfyniadau. (1In 2:15, 17) Cofia, gall cael lot o bethau materol ei gwneud hi’n anodd i rywun dderbyn neges y Deyrnas. (Lu 18:24-27) Dydy mynd ar ôl cyfoeth ddim yn cefnogi datblygiad a llwyddiant ysbrydol.—Mth 6:24; Mc 8:36.
Dangosa’r FIDEO Gwylia Rhag Ymddiried Mewn Pethau Sy’n Darfod!—Cyfoeth. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
-
Sut gall Diarhebion 23:4, 5 dy helpu di i wneud penderfyniadau doeth?
8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa
(30 mun.) lff gwers 58