Mai 6-12
SALMAU 36-37
Cân 87 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
1. “Paid Digio Pan Mae Pobl Ddrwg yn Llwyddo”
(10 mun.)
Mae pobl ddrwg yn achosi poen a dioddefaint inni (Sal 36:1-4; w17.04 10 ¶4)
Mae dal dig yn erbyn “pobl ddrwg” hefyd yn achosi niwed inni (Sal 37:1, 7, 8; w22.06 10 ¶10)
Mae trystio addewidion Jehofa yn rhoi heddwch inni (Sal 37:10, 11; w03-E 12/1 13 ¶20)
GOFYNNA I TI DY HUN, ‘Ydw i’n talu gormod o sylw i ddigwyddiadau yn y newyddion sy’n sôn am ddrygioni?’
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
-
Sal 36:6, BCND—Beth efallai roedd y salmydd yn ei olygu pan gyfeiriodd at gyfiawnder Jehofa fel “mynyddoedd uchel”? (it-2-E 445)
-
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Sal 37:1-26 (th gwers 10)
4. Dechrau Sgwrs
(3 mun.) O DŶ I DŶ. (lmd gwers 1 pwynt 5)
5. Parhau â’r Sgwrs
(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Cynigia astudiaeth Feiblaidd i rywun sydd wedi gwrthod cael un yn y gorffennol. (lmd gwers 9 pwynt 4)
6. Anerchiad
(5 mun.) ijwbv-E 45—Thema: Beth Yw Ystyr Salm 37:4? (th gwers 13)
Cân 33
7. A Wyt Ti’n Barod i Wynebu “Trafferthion”?
(15 mun.) Trafodaeth.
Mae trychinebau naturiol a thrychinebau sydd wedi cael eu hachosi gan bobl yn achosi trasiedi a cholled i’n brodyr a’n chwiorydd ledled y byd. (Sal 9:9, 10) Mae’n drist i ddweud gall trychinebau daro ar unrhyw adeg, felly mae’n rhaid inni fod yn barod i wynebu treialon o’r fath.
Yn ogystal â pharatoi pethau a a fydd yn ein helpu ni i oroesi trychineb, beth all ein helpu ni i ymdopi pan fydd trychineb yn taro?
-
Paratoi’n feddyliol: Cydnabod y bydd trychinebau’n digwydd ac ystyria beth i’w wneud pan fydd un yn taro. Paid â rhoi gormod o bwyslais ar bethau materol. Gall hynny dy helpu di i fod yn ddoeth, ac i ganolbwyntio ar achub dy fywyd di a bywydau pobl eraill yn hytrach na achub dy eiddo. (Ge 19:16; Sal 36:9) Bydd hefyd yn dy helpu di i ymdopi yn well os wyt ti’n colli pethau materol yn ystod trychineb.—Sal 37:19
-
Paratoi’n ysbrydol: Cryfha dy hyder yng ngallu Jehofa i ofalu amdanat ti a’i awydd i wneud hynny. (Sal 37:18) Cyn i drychineb daro, atgoffa dy hun yn rheolaidd y bydd Jehofa’n arwain ac yn cefnogi ei weision, hyd yn oed os ydyn ni ond yn goroesi gyda’n bywydau.—Jer 45:5; Sal 37:23, 24
Os byddwn ni’n cadw addewidion Jehofa mewn cof, byddwn ni’n dibynnu arno i’n hamddiffyn fel caer yn ystod treialon.—Sal 37:39.
Dangosa’r FIDEO Wyt Ti Wedi Paratoi ar Gyfer Trychineb? Yna gofynna i’r gynulleidfa:
-
Sut gall Jehofa ein helpu ni pan fydd trychineb yn taro?
-
Pa bethau ymarferol allwn ni eu gwneud i baratoi?
-
Sut gallwn ni helpu’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan drychinebau?