JOB 1-5
TRYSORAU O AIR DUW |Arhosodd Job yn Ffyddlon o Dan Brawf
Roedd Job yn byw yng ngwlad Us yn ystod yr adeg pan oedd yr Israeliaid yn gaethweision yn yr Aifft. Er nad oedd yn un o’r Israeliad, roedd Job yn was ffyddlon i Jehofa. Roedd yn ddyn cyfoethog gyda theulu mawr. Yn ddyn dylanwadol yn ei gymuned, roedd gan Job enw da fel cynghorwr a barnwr diduedd. Rhoddai’n hael i bawb mewn angen. Dyn ffyddlon oedd Job.
Dangosodd Job yn eglur mai Jehofa oedd y person pwysicaf yn ei fywyd
1:8-11, 22; 2:2-5
-
Sylwodd Satan ar ffyddlondeb Job. Nid oedd yn gwadu ei ffyddlondeb i Jehofa, yn hytrach fe gododd gwestiwn am ei gymhellion
-
Honnodd Satan fod Job yn addoli Jehofa am resymau hunanol
-
Er mwyn ateb cyhuddiad Satan, gadawodd Jehofa iddo ymosod ar Job. Cymerodd Satan y cyfle i ddifetha ei fywyd ym mhob ffordd bosibl
-
Arhosodd Job yn ffyddlon, ac felly aeth Satan ymlaen i godi cwestiwn am ffyddlondeb pawb
-
Ni wnaeth Job bechu, na rhoi’r bai ar Dduw