Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

TRYSORAU O AIR DUW | JOB 6-10

Job yn Sôn am Ei Ofid

Job yn Sôn am Ei Ofid

Roedd Job wedi colli ei gyfoeth, ei blant a’i iechyd, ond fe arhosodd yn ffyddlon. Felly, cam nesaf Satan oedd ceisio digalonni Job yn llwyr a gwneud iddo gefnu ar Dduw. Daeth tri “chyfaill” i’w weld. I ddechrau, fe wnaethon nhw orchest o gydymdeimlo â Job. Ar ôl hynny, eisteddon nhw yn fud am saith diwrnod heb ddweud yr un gair o gysur iddo. Aethon nhw ymlaen wedyn i roi areithiau yn cyhuddo Job o bob math o bethau cas.

Arhosodd Job yn ffyddlon i Jehofa er gwaethaf pwysau ofnadwy

6:3; 7:16; 9:20-22; 10:1, 12

  • Roedd galar enbyd Job yn effeithio ar ei safbwynt. Daeth i’r casgliad anghywir nad oedd ei ffyddlondeb o unrhyw bwys i Dduw

  • Oherwydd iddo ddigalonni, nid oedd Job yn ystyried rhesymau posibl eraill dros ei ddioddefaint

  • Er gwaethaf ei alar, roedd Job yn dal i siarad am ei gariad tuag at Jehofa