Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

TRYSORAU O AIR DUW | JOB 11-15

Ffydd Job yn yr Atgyfodiad

Ffydd Job yn yr Atgyfodiad

Job yn sôn am ei ffydd yng ngallu Duw i’w atgyfodi

14:7-9, 13-15

  • Soniodd Job am ei hyder yn yr atgyfodiad drwy gyfeirio at goeden—o bosibl coeden olewydd

  • Oherwydd ei system gwreiddiau eang, mae’r olewydden yn gallu adfywio ei hun, hyd yn oed ar ôl i’r boncyff gael ei ddinistrio. Cyn belled bod y gwreiddiau dal yn fyw, bydd y goeden yn tyfu unwaith eto

  • Pan ddaw’r glaw ar ôl cyfnod o sychder, gall boncyff sych yr olewydden ddechrau blaguro unwaith eto o’r gwreiddiau, “fel planhigyn ifanc”