Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

TRYSORAU O AIR DUW | ESTHER 6-10

Roedd Esther yn Anhunanol Wrth Weithredu er Lles Jehofa a’i Bobl

Roedd Esther yn Anhunanol Wrth Weithredu er Lles Jehofa a’i Bobl

Safodd Esther yn ddewr ac yn anhunanol dros Jehofa a’i bobl

8:3-5, 9

  • Roedd Esther a Mordecai yn ddiogel. Ond roedd gorchymyn Haman i ladd yr Iddewon ar ei ffordd i bob cornel o’r ymerodraeth

  • Unwaith eto, mentrodd Esther ei bywyd drwy fynd i weld y brenin heb wahoddiad. Wylodd dros ei phobl, a gofynnodd i’r brenin ddiddymu’r gorchymyn erchyll

  • Nid oedd modd diddymu deddfau a basiwyd yn enw’r brenin. Felly rhoddodd y brenin yr hawl i Esther a Mordecai greu deddf newydd

Rhoddodd Jehofa fuddugoliaeth i’w bobl

8:10-14, 17

  • Cyhoeddwyd ail ddeddf, yn caniatáu i’r Iddewon amddiffyn eu hunain

  • Brysiodd negeseuwyr allan ar geffylau i bob rhan o’r ymerodraeth, a pharatôdd yr Iddewon ar gyfer brwydr

  • Gwelodd llawer fod bendith Duw ar yr Iddewon, a throi’n broselytiaid