RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH
Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Llunio Dy Gyflwyniad Dy Hun ar Gyfer y Cylchgronau
PAM MAE’N BWYSIG? Mae’r cyflwyniadau enghreifftiol yng ngweithlyfr y cyfarfod yno i gynnig syniadau yn unig. Dylet ti ddefnyddio dy eiriau dy hun. Efallai bydd yn well gennyt ti fynd ati mewn ffordd gwahanol, neu efallai byddi di’n teimlo bod pwnc arall yn fwy apelgar i bobl yn yr ardal. Os felly, ar ôl i ti ddarllen y cylchgrawn, ystyried y cyflwyniadau enghreifftiol, a gwylio’r cyflwyniadau ar y fideo, gelli di ddefnyddio’r awgrymiadau canlynol i lunio dy gyflwyniad dy hun.
SUT I FYND ATI?
Gofynna, ‘Ydw i am ddefnyddio un o’r cyflwyniadau enghreifftiol?’
YDW
-
Paratoa dy eiriau agoriadol. Ar ôl dweud helo, esbonia’n fyr y rheswm am dy alwad. (Enghraifft: “Dw i wedi galw oherwydd . . . ”)
-
Meddylia am ffordd i bontio rhwng y cwestiwn, yr adnod a’r cynnig. (Enghraifft: Er mwyn cyflwyno adnod, cei ddweud: “Cawn ateb da i’r cwestiwn hwnnw yma.”)
NAC YDW
-
Dewisa bwnc o’r cylchgrawn sydd o ddiddordeb i ti, a fydd yn apelio at bobl yn yr ardal
-
Dewisa gwestiwn fydd yn gofyn am farn ac yn hyrwyddo trafodaeth, ond un na fydd yn gwneud i rywun deimlo’n annifyr. (Esiampl: Y cwestiynau sy’n ymddangos ar dudalen 2 o’r cylchgronau.)
-
Dewisa adnod i’w darllen. (Nid oes rhaid darllen adnod os wyt ti’n cynnig yr Awake! gan fod y cylchgrawn hwn wedi’i ysgrifennu ar gyfer y rhai nad ydyn nhw’n gwybod llawer am y Beibl, ac efallai ddim yn ymddiried mewn crefydd chwaith.)
-
Paratoa frawddeg neu ddwy i egluro sut bydd yr erthygl o fudd i’r deiliad
P’RUN BYNNAG RWYT YN EI DDEWIS
-
Paratoa gwestiwn ychwanegol i’w ateb ar yr ail alwad
-
Gwna nodiadau i’th helpu i gofio beth i’w ddweud y tro nesaf