EIN BYWYD CRISTNOGOL
Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?—Sut i’w Ddefnyddio?
Mae’r llyfryn Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw? wedi ei gynllunio i’w ddefnyddio gyda myfyrwyr y Beibl ar ddechrau pob astudiaeth neu ar y diwedd. * Mae gwersi 1 i 4 yn gymorth i’r myfyrwyr ddod i’n hadnabod ni fel pobl, mae gwersi 5 i 14 yn helpu iddyn nhw ddysgu am ein gwaith, a gwersi 15 i 28 yn dangos y gyfundrefn ar waith. Yn gyffredinol, mae’n well trafod pob gwers mewn trefn, oni bai bod un ohonyn nhw’n delio â phwnc sydd o fwy o ddiddordeb ar y pryd. Dim ond un dudalen sydd i bob gwers, ac mae’n bosibl ei thrafod mewn pump i ddeg munud gyda’r rhan fwyaf o fyfyrwyr.
-
Tynna sylw at y cwestiwn sy’n deitl i’r wers
-
Darllena’r wers gyda’ch gilydd, yn syth drwodd neu ddarn ar y tro
-
Trafoda’r hyn sydd newydd gael ei ddarllen. Defnyddia’r cwestiynau ar waelod y dudalen a’r lluniau. Darllena’r adnodau sydd fwyaf perthnasol a’u trafod. Esbonia fod yr isbenawdau mewn print trwm yn ateb y cwestiwn yn y teitl
-
Os oes yna flwch “I Ddysgu Mwy,” darllena hwnnw gyda’ch gilydd ac annog dy fyfyriwr i ddilyn yr awgrym
^ Par. 3 Y fersiwn ar-lein yw’r un diweddaraf.