Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Gwrando ar Dduw—Sut i’w Ddefnyddio?

Gwrando ar Dduw—Sut i’w Ddefnyddio?

Cafodd y llyfryn Gwrando ar Dduw ei gynllunio er mwyn dysgu gwirioneddau sylfaenol y Beibl gyda lluniau ar gyfer y rhai sy’n cael hi’n anodd dysgu oddi wrth ysgrifen. Mae pob un o’r gwersi ddwy dudalen yn cynnwys lluniau sydd wedi eu paratoi yn ofalus gyda saethau i arwain y drafodaeth o un llun i’r llall.

Mae gan y llyfryn Gwrando ar Dduw a Byw am Byth yr un lluniau â Gwrando ar Dduw, ond mae ganddo fwy o ysgrifen ac y mae’n bosibl i fyfyrwyr sy’n gallu darllen ei ddefnyddio. Mae llawer o gyhoeddwyr yn hoffi ei ddefnyddio fel copi’r athro pan fydd eu myfyriwr yn defnyddio Gwrando ar Dduw oddi ar jw.org. Mae gan lawer o’r tudalennau wybodaeth ychwanegol mewn blwch. Yn ôl gallu’r myfyriwr, gellir ei drafod.

Cei gynnig Gwrando ar Dduw a Byw am Byth ar unrhyw adeg, hyd yn oed os nad yw’n gynnig y mis. Ar astudiaeth Feiblaidd, defnyddia’r lluniau i esbonio’r Beibl. Gofynna gwestiynau i gynnwys y myfyriwr ac i wneud yn siŵr ei fod yn deall. Darllena’r ysgrythurau ar waelod pob tudalen. Ar ôl gorffen y llyfryn, astudia Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? i helpu dy fyfyriwr i wneud cynnydd a chael ei fedyddio.