Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Helpu Dy Deulu i Gofio Jehofa

Helpu Dy Deulu i Gofio Jehofa

Cafodd Jeremeia ei gomisiynu i rybuddio’r Iddewon fod dinistr ar y gorwel am eu bod wedi anghofio am eu Duw, Jehofa. (Jer 13:25) Sut daeth cyflwr ysbrydol y genedl i’r sefyllfa drist yma? Roedd teuluoedd yr Israeliaid wedi colli eu hysbrydolrwydd. Mae’n ymddangos nad oedd pennau’r teuluoedd yn dilyn arweiniad Jehofa yn Deuteronomium 6:5-7.

Teuluoedd ysbrydol gryf sy’n cadw ein cynulleidfaoedd yn sefydlog. Gall y penteulu helpu ei deulu i gofio Jehofa drwy gynnal rhaglen Addoliad Teuluol rheolaidd sy’n ateb anghenion y teulu. (Sal 22:27) Ar ôl gwylio’r fideo “These Words . . . Must Be on Your Heart”—Family Interviews, ateba’r cwestiynau canlynol:

  • Sut mae rhai teuluoedd wedi trechu’r sefyllfaoedd sy’n gallu bod yn her i gynnal addoliad teuluol?

  • Beth yw manteision cynnal Addoliad Teuluol rheolaidd sy’n ateb anghenion y teulu?

  • Wrth ystyried addoliad teuluol, pa heriau sydd gen i, a sut dw i’n mynd i ddelio â nhw?