“Rhaid i’r Sawl Sydd am Arwain Ddysgu Gwasanaethu”
Roedd arbenigwyr y Gyfraith a’r Phariseaid balch eisiau creu argraff ar eraill a bod yn bobl bwysig. (Mth 23:5-7) Roedd Iesu’n wahanol. “Wnes i, . . . ddim disgwyl i bobl eraill fy ngwasanaethu i, er mai fi ydy Mab y Dyn; des i fel gwas.” (Mth 20:28) Ydyn ni’n canolbwyntio ein hymdrechion ar agweddau o’n haddoliad sy’n denu sylw a chlod inni? Mae mawredd fel oedd gan Crist yn dod pan ddangoswn ddiddordeb yn eraill a’u gwasanaethu. Yn aml bydd gwaith o’r fath yn cael ei wneud y tu ôl i’r llenni—a Jehofa yn unig sydd yn ei weld. (Mth 6:1-4) Bydd gwas gostyngedig yn . . .
-
rhannu yn y gwaith o lanhau Neuadd y Deyrnas a’i chynnal
-
cymryd y blaen i helpu’r henoed ac eraill
-
cyfrannu’n ariannol i hybu buddiannau’r Deyrnas