Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Dysgu Ein Myfyrwyr Sut i Baratoi

Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Dysgu Ein Myfyrwyr Sut i Baratoi

PAM MAE’N BWYSIG? Pan fydd myfyrwyr y Beibl yn paratoi, gallan nhw ddeall yn haws a chofio’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu iddyn nhw. Mwya’n y byd y maen nhw’n ei ddeall a’i gofio, mwya’n y byd y byddan nhw’n gwneud cynnydd. Hyd yn oed ar ôl eu bedydd, byddan nhw’n dal angen paratoi ar gyfer y cyfarfodydd a’r weinidogaeth er mwyn cadw’n wyliadwrus. (Mth 25:13) Felly, mae gwybod sut i fyfyrio a chadw at raglen astudio yn mynd i fod o fudd iddyn nhw drwy gydol eu bywydau. O’r dechrau un, dylen ni helpu ein myfyrwyr i ddatblygu’r arferiad o baratoi ar gyfer eu hastudiaeth Feiblaidd.

SUT I FYND ATI?

  • Bydda’n esiampl dda. (Rhu 2:21) Paratoa ar gyfer pob astudiaeth gyda’r myfyriwr mewn meddwl. (km 11/15 3) Gad iddo weld bod dy gyhoeddiad wedi ei danlinellu

  • Rho anogaeth iddo i baratoi. Unwaith fydd yr astudiaeth wedi ei sefydlu, gad iddo wybod bod paratoi yn rhan o’r drefn arferol ar gyfer astudiaeth Feiblaidd, ac esbonia’r manteision. Rho awgrymiadau ymarferol iddo fydd yn ei helpu i neilltuo amser i baratoi. Mae rhai athrawon yn caniatáu i’r myfyriwr ddefnyddio cyhoeddiadau’r athro sydd wedi eu tanlinellu yn ystod sesiwn astudio. Bydd hyn yn helpu’r myfyriwr i weld y buddion o wneud hynny. Rho gymeradwyaeth iddo pan fydd ef wedi paratoi

  • Dangosa iddo sut i baratoi. Yn fuan ar ôl dechrau, bydd rhai athrawon yn defnyddio sesiwn astudio cyfan i ddangos i’w myfyriwr sut i baratoi ar gyfer gwers