Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

TRYSORAU O AIR DUW | MATHEW 25

“Gwyliwch Eich Hunain”

“Gwyliwch Eich Hunain”

25:1-12

Er y gwnaeth Iesu gyfeirio dameg y ddeg morwyn briodas at ei ddilynwyr eneiniog, mae ei neges sylfaenol yn berthnasol i bob Cristion. (w15-E 3/15 12-16) “Gwyliwch eich hunain felly! Dych chi ddim yn gwybod y dyddiad na’r amser.” (Mth 25:13) A elli di esbonio dameg Iesu?

  • Y priodfab (adn. 1)—Iesu

  • Morynion call a pharod (adn. 2)—Cristnogion Eneiniog sydd yn barod i gyflawni eu aseiniad yn ffyddlon ac sy’n disgleirio fel sêr hyd at y diwedd (Php 2:15)

  • Y cri: “Mae’r priodfab wedi cyrraedd!” (adn. 6)—Tystiolaeth o bresenoldeb Iesu

  • Y morynion dwl (adn. 8)—Cristnogion Eneiniog sydd yn mynd allan i gyfarfod y Priodfab ond sydd heb ddal ati i fod yn wyliadwrus nac wedi cadw eu huniondeb

  • Y morynion call yn gwrthod rhannu eu holew (adn. 9)—Ar ôl y selio terfynol, mae hi’n rhy hwyr i’r eneiniog ffyddlon helpu rhywun sydd wedi troi’n anffyddlon

  • “Dyma’r priodfab yn cyrraedd” (adn. 10)—Mae Iesu’n dod i farnu yn agos i ddiwedd y gorthrymder mawr

  • Mae’r morynion call yn mynd mewn i’r wledd briodas gyda’r priodfab, a dyma’r drws yn cael ei gau (adn. 10)—Mae Iesu’n casglu ei eneiniog ffyddlon i’r nef, ond mae’r rhai anffyddlon yn colli eu gwobr nefol