Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Llythyr Enghreifftiol

Llythyr Enghreifftiol
  • Defnyddia dy gyfeiriad dy hun. Os wyt ti’n meddwl y byddai’n annoeth i ddefnyddio dy gyfeiriad, gelli di ddefnyddio cyfeiriad dy Neuadd os cei ganiatâd yr henuriaid. Fodd bynnag, ddylet ti BYTH ddefnyddio cyfeiriad y swyddfa gangen fel cyfeiriad dychwelyd.

  • Os wyt ti’n gwybod enw’r person, paid â dal yn ôl rhag ei ddefnyddio. Bydd hyn yn osgoi creu’r argraff bod y llythyr yn hysbyseb o ryw fath.

  • Sicrha dy fod yn defnyddio sillafu, gramadeg, ac atalnodi cywir. Dylai’r llythyr fod yn daclus, nid yn flêr. Os wyt ti’n ysgrifennu’r llythyr â llaw, dylai dy ysgrifen fod yn hawdd ei darllen. Ddylai’r geirfa yn dy lythyr ddim bod yn rhy ffurfiol nac yn rhy anffurfiol.

Dyma lythyr enghreifftiol sy’n dangos y pwyntiau uchod ar waith. Ddylet ti ddim ei gopïo air am air bob tro rwyt ti’n ysgrifennu at rywun yn dy diriogaeth. Addasa’r llythyr yn ôl ei bwrpas, ac yn ôl arferion ac amgylchiadau lleol.