Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Ysgrifennu Llythyrau Da

Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Ysgrifennu Llythyrau Da

PAM MAE’N BWYSIG: Mae llythyr cyntaf Paul at y Corinthiaid yn un o 14 o lythyrau a ysgrifennodd er mwyn annog ei gyd-Gristnogion. Pan fo rhywun yn ysgrifennu llythyr, mae ganddo amser i ddewis ei eiriau yn ofalus, a gall y derbyniwr ei ddarllen sawl gwaith. Mae llythyrau yn ffordd dda o dystiolaethu i berthnasau ac eraill rydyn ni’n eu hadnabod. Hefyd, mae llythyr yn ffordd effeithiol o dystiolaethu os na allwn ni siarad â rhywun wyneb yn wyneb. Er enghraifft, efallai fod rhywun wedi dangos diddordeb, ond mae’n anodd i’w gael gartref. Efallai ei bod hi’n anodd cyrraedd rhai pobl yn ein tiriogaeth oherwydd systemau diogelwch, giatiau wedi eu cloi, neu oherwydd eu bod yn byw mewn llefydd anghysbell. Beth sy’n rhaid inni ei gofio, yn enwedig wrth ysgrifennu at ddieithryn?

SUT I FYND ATI:

  • Ysgrifenna beth fyddet ti wedi ei ddweud petaet ti wedi siarad â’r person wyneb yn wyneb. Cyflwyna dy hun ar ddechrau’r llythyr, ac esbonia’n glir pam rwyt ti’n ysgrifennu atyn nhw. Gelli di godi cwestiwn i’r person feddwl amdano, a chyfeirio’r person at ein gwefan. Yna, rho wybod iddo am y Gwersi Astudio’r Beibl Ar-lein (sydd ddim eto ar gael yn Gymraeg), esbonia’n fras ein rhaglen astudio’r Beibl yn y cartref, neu dyfynna deitlau rhai penodau o un o’n cyhoeddiadau astudio. Gall un o’n cyhoeddiadau, fel cerdyn cyswllt, gwahoddiad, neu daflen, gael ei gynnwys gyda’r llythyr

  • Bydda’n gryno. Paid ag ysgrifennu llythyr sy’n rhy hir, rhag i’r darllenwr gael llond bol o’i ddarllen.—Gweler y llythyr enghreifftiol

  • Darllena drwyddo eto i gywiro camgymeriadau ac i sicrhau ei fod yn ddealladwy. Gwna’n siŵr fod tôn y llythyr yn gyfeillgar, yn llawn tact, ac yn bositif. Rho ddigon o stampiau arno