Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Defnyddia Fideos i Ddysgu Myfyrwyr y Beibl

Defnyddia Fideos i Ddysgu Myfyrwyr y Beibl

Mae cymhorthion gweledol yn dal sylw’r gwyliwr ac yn ei helpu i ddeall a chofio’r hyn a ddysgodd. Defnyddiodd Jehofa, ein Haddysgwr Mawr, gymhorthion gweledol i ddysgu gwersi pwysig. (Ge 15:5; Jer 18:1-6) Cawson nhw eu defnyddio hefyd gan yr Athro Mawr, Iesu. (Mth 18:2-6; 22:19-21) Un ffurf o gymorth gweledol sydd wedi bod yn fuddiol iawn yn y blynyddoedd diwethaf ydy fideos. A wyt ti’n gwneud defnydd da o fideos wrth ddysgu myfyrwyr y Beibl?

Cynhyrchwyd deg fideo i’n helpu i esbonio’r gwersi o’r llyfryn Newyddion Da Oddi Wrth Dduw! Fel rheol, mae teitl pob fideo yn cyfateb i un o’r cwestiynau mewn print trwm sydd i’w cael yn y llyfryn. Mae’r fersiwn digidol yn cynnwys linciau sy’n dangos pryd i ddefnyddio pob un o’r fideos. Yn ogystal, mae fideos eraill yn cyd-fynd â’r deunydd sydd yn y cyhoeddiadau astudio yn ein Bocs Tŵls Dysgu.

A wyt ti’n trafod pwnc Beiblaidd a allai fod yn anodd i dy fyfyriwr ei ddeall? Neu ydy’r myfyriwr yn delio â phroblem benodol? Chwilia drwy’r fideos ar jw.org® a JW Broadcasting® i ddod o hyd i un a fydd yn ei helpu. Efallai gelli di a’r myfyriwr wylio un ohonyn nhw gyda’ch gilydd ac yna ei drafod.

Bob mis, mae fideos newydd yn cael eu rhyddhau. Wrth iti eu gwylio, meddylia am sut gelli di eu defnyddio wrth ddysgu eraill.