Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Pregethu i Bobl Ddall

Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Pregethu i Bobl Ddall

PAM MAE’N BWYSIG? Mae llawer o bobl ddall yn teimlo’n anghyfforddus yn siarad â phobl ddiarth. Felly, mae’n gofyn am sgìl arbennig er mwyn tystiolaethu iddyn nhw. Mae Jehofa yn dangos ei ofal dros y dall. (Le 19:14) Gallwn ninnau efelychu ei esiampl drwy gymryd y cam cyntaf i helpu pobl ddall i ddod yn ffrindiau i Jehofa.

SUT I FYND ATI:

  • Chwilia am bobl ddall. (Mth 10:11) Wyt ti’n adnabod rhywun sydd ag aelod o’r teulu sy’n ddall? Oes ’na ysgolion, cartrefi nyrsio, neu wasanaethau yn dy ardal di a fyddai’n hoffi cael cyhoeddiadau ar gyfer pobl ddall?

  • Dangosa ddiddordeb personol. Bydd bod yn gyfeillgar a dangos diddordeb diffuant yn helpu’r person dall i deimlo’n gyfforddus. Ceisia gychwyn sgwrs ar sail rhywbeth lleol sydd o ddiddordeb

  • Rho gymorth ysbrydol. Er mwyn helpu’r rhai sydd â nam ar eu golwg i ddysgu am y Beibl, mae’r gyfundrefn wedi cyhoeddi llenyddiaeth mewn gwahanol fformatiau. Gofynna i’r unigolyn pa fformat sy’n well ganddo. Dylai’r arolygwr gwasanaeth sicrhau bod y gwas llenyddiaeth yn archebu llenyddiaeth yn y fformat cywir