Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Pwy Galla’ i ei Wahodd?

Pwy Galla’ i ei Wahodd?

Bob blwyddyn rydyn ni’n gwneud ymdrech arbennig i wahodd pobl yn ein tiriogaeth i gadw’r Goffadwriaeth gyda ni. Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn ddiarth inni. Dylen ni hefyd wahodd pobl rydyn ni’n eu hadnabod. Yn aml, mae pobl yn fwy tebygol o fynychu pan maen nhw’n adnabod y person sy’n rhoi’r gwahoddiad. (yb08-E 11 ¶3; 14 ¶1) Fedri di feddwl am rai hoffet ti eu gwahodd?

  • Teulu

  • Cyd-weithwyr neu gyd-ddisgyblion

  • Cymdogion

  • Ail alwadau, myfyrwyr y Beibl, neu rai sydd wedi astudio yn y gorffennol

Hefyd, bydd yr henuriaid yn gwahodd y rhai sy’n anweithredol. Beth os oes ’na rywun hoffet ti ei wahodd ond dydyn nhw ddim yn byw yn dy ardal di? Gelli di ddod o hyd i amser a lleoliad y Goffadwriaeth yn ei ardal drwy glicio ar y tab AMDANON NI ar frig tudalen hafan jw.org/cy, a dewis “Coffadwriaeth.” Wrth iti baratoi ar gyfer y Goffadwriaeth eleni, meddylia am y rhai gelli di eu gwahodd, ac estynna groeso cynnes iddyn nhw.