Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Pwy Yw Dy Ffrindiau Ar-Lein?

Pwy Yw Dy Ffrindiau Ar-Lein?

Mae gan ffrindiau go iawn hoffter a pharch tuag at ei gilydd. Er enghraifft, daeth Jonathan a Dafydd yn ffrindiau agos iawn ar ôl i Dafydd ladd Goliath. (1Sa 18:1) Roedd y ddau ddyn yn dangos rhinweddau a oedd yn apelio at y llall. Felly, mae bod yn ffrindiau agos yn seiliedig ar adnabod eich gilydd yn dda. I hynny ddigwydd mae’n cymryd amser ac ymdrech. Er hynny, gall pobl ddod yn “ffrindiau” ar-lein drwy bwyso ar fotwm yn unig. Oherwydd gall pobl ar-lein gynllunio o flaen llaw yn union beth i’w ddweud a rheoli i ryw raddau sut mae pobl yn eu gweld nhw, mae’n hawdd iddyn nhw guddio pwy ydyn nhw mewn gwirionedd. Felly, peth da yw meddwl yn ofalus am ba fath o bobl byddi di’n eu derbyn fel ffrindiau. Paid bod ag ofn anwybyddu neu wrthod pobl dwyt ti ddim yn eu hadnabod sy’n ceisio bod yn ffrind iti ar-lein, hyd yn oed os mae hynny’n golygu brifo eu teimladau nhw. Er mwyn osgoi bod mewn peryg, mae rhai wedi dewis i beidio â defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Ond, os wyt ti’n penderfynu eu defnyddio nhw, beth dylet ti ei gofio?

GWYLIA’R FIDEO DEFNYDDIO DY BEN WRTH GYMDEITHASU AR-LEIN, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Beth dylet ti ei ystyried cyn postio lluniau a sylwadau?

  • Pam dylet ti fod yn ofalus wrth ddewis ffrindiau ar-lein?

  • Pam dylet ti osod terfynau ar yr amser rwyt ti’n ei dreulio yn cymdeithasu ar-lein?—Eff 5:15, 16