Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH | CAEL MWY O LAWENYDD YN Y WEINIDOGAETH

Helpa Fyfyrwyr y Beibl i Gefnu ar Arferion Drwg

Helpa Fyfyrwyr y Beibl i Gefnu ar Arferion Drwg

Dim ond y rhai sy’n foesol lân sy’n gallu mwynhau perthynas agos â Jehofa. (1Pe 1:14-16) Wrth i fyfyrwyr y Beibl ddod dros arferion drwg, efallai bydd eu bywyd teuluol, eu hiechyd, a’u sefyllfa ariannol yn gwella.

Esbonia’n glir safonau moesol Jehofa, y rhesymau drostyn nhw, a’r buddion sy’n dod o’u dilyn nhw. Canolbwyntia ar helpu dy fyfyrwyr i newid eu ffordd o feddwl i blesio Jehofa, ac wedyn byddan nhw’n dangos hynny yn eu gweithredoedd. (Eff 4:22-24) Anoga nhw y bydd Jehofa yn eu helpu nhw i drechu arferion drwg sydd â gafael arnyn nhw. Helpa nhw i weld eu bod nhw’n gallu trechu eu harferion drwg gyda help Jehofa. (Php 4:13, BCND) Dysga nhw i ymbil ar Jehofa pan fydd ganddyn nhw’r awydd i bechu. Helpa nhw i adnabod ac osgoi sefyllfaoedd lle byddan nhw’n cael eu temtio. Anoga nhw i wneud pethau sydd o les iddyn nhw yn lle pethau drwg. Mae gweld myfyrwyr y Beibl yn llwyddo i wneud newidiadau gyda help Jehofa yn dod â llawenydd.

GWYLIA’R FIDEO HELPA FYFYRWYR Y BEIBL I GEFNU AR ARFERION DRWG, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Sut dangosodd yr henuriaid a Neeta fod ganddyn nhw hyder yn Lili?

  • Pa help ychwanegol roddodd Neeta i Lili?

  • Sut gwnaeth Lili geisio help Jehofa?