Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Sut i Ddefnyddio’r Fideos Sy’n Ymwneud ag Astudio’r Beibl

Sut i Ddefnyddio’r Fideos Sy’n Ymwneud ag Astudio’r Beibl

Mae gynnon ni bedwar fideo ar gyfer y weinidogaeth sy’n ymwneud ag astudio’r Beibl. Beth ydy pwrpas pob un?

  • Pam Astudio’r Beibl?—Fersiwn Llawn. Cafodd hwn ei ddylunio i ennyn diddordeb pobl yn y Beibl ni waeth beth ydy eu cefndir crefyddol. Mae’n annog y gwyliwr i edrych i’r Beibl am atebion i gwestiynau mawr bywyd ac yn rhoi rhagflas o’r wybodaeth sydd ynddo. Mae’n esbonio sut i wneud cais i gael astudiaeth Feiblaidd.

  • Pam Astudio’r Beibl? (fersiwn byr) Mae hwn yn debyg i’r fersiwn llawn ond yn llai na hanner ei hyd. Efallai gallai hwn gael ei ddefnyddio mewn ardaloedd lle mae pobl yn brysur.

  • Beth Sy’n Digwydd ar Astudiaeth Feiblaidd? Cafodd hwn ei ddylunio i ennyn diddordeb yn ein cwrs astudio’r Beibl ac i ateb rhai cwestiynau cyffredin amdano, gan gynnwys sut i wneud cais i gael astudiaeth.

  • Croeso i’ch Astudiaeth Feiblaidd. Cafodd hwn ei ddylunio i’w ddangos i fyfyrwyr y Beibl. Er bod y fideo yn cael ei gyflwyno ar dudalen dau o’r llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! gallwn ni hefyd ei ddangos wrth drafod y llyfryn Mwynhewch Fywyd am Byth! Mae’r fideo yn esbonio cynnwys y llyfr a beth gall y myfyriwr ei ddisgwyl yn ystod y gwersi.

Er bod ’na ddefnydd penodol i bob fideo, gall unrhyw un ohonyn nhw gael ei ddangos neu ei anfon i bobl pan mae’n addas. Mae cyhoeddwyr yn cael eu hannog i ddod yn gyfarwydd â nhw a gwneud defnydd da ohonyn nhw yn y weinidogaeth.