Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Sut i Helpu ar ôl Trychineb

Sut i Helpu ar ôl Trychineb

Mae trychinebau naturiol yn dod yn fwy ac yn fwy cyffredin. Pan mae trychineb yn taro, mae angen trefnu a chydlynu cymorth mewn ffordd effeithiol. Er mwyn gwneud hyn, mae’r Corff Llywodraethol wedi trefnu i Adrannau Cymorth ar ôl Trychineb gael eu sefydlu ym mhob swyddfa gangen.

Pan mae’r brodyr yn yr adran honno yn dysgu am drychineb, maen nhw’n cysylltu â’r henuriaid lleol yn syth er mwyn darganfod pa help sydd ei angen ar y cyhoeddwyr lleol. Os ydy’r difrod yn ormod i’r cyhoeddwyr lleol, bydd y gangen yn aseinio brodyr cymwys i gymryd y blaen yn y gwaith cymorth. Efallai bydd y brodyr hyn yn gofyn am wirfoddolwyr neu am gyfraniadau o bethau penodol, neu efallai byddan nhw’n prynu ac yn dosbarthu’r nwyddau angenrheidiol yn lleol.

Mae ’na lawer o fuddion o wneud pethau y ffordd hon. Mae’n osgoi dryswch, neu wastraffu ymdrech, arian, ac adnoddau, sy’n gallu digwydd pan mae brodyr yn gweithredu ar eu liwt eu hunain.

Gall y brodyr sydd wedi eu hapwyntio gan y gangen benderfynu faint o arian a gwirfoddolwyr sydd eu hangen yn y gwaith cymorth. Gallan nhw hefyd gysylltu â swyddogion lleol, sy’n gallu helpu i gyflymu’r gwaith. Felly, ddylai unigolion ddim fynd ati i gasglu arian, anfon nwyddau, neu deithio i’r ardal sydd wedi ei heffeithio heb i rywun ofyn iddyn nhw wneud hynny.

Ond eto, pan mae trychineb yn taro, rydyn eisiau helpu. (Heb 13:16) Rydyn ni’n caru ein brodyr! Beth gallwn ni ei wneud? Yn bwysicaf, gallwn ni weddïo dros y rhai sy’n dioddef a dros y rhai sy’n darparu cymorth. Gallwn ni hefyd gwneud cyfraniadau at y gwaith byd-eang. O dan arweiniad y Corff Llywodraethol, swyddfeydd cangen sydd yn y sefyllfa orau i wybod ble bydd yr arian yn helpu fwyaf. Ac os wyt ti eisiau cael rhan yn y gwaith, gelli di ddangos dy fod ti ar gael drwy lenwi’r ffurflen Local Design/Construction Volunteer Application (DC-50).

GWYLIA’R FIDEO DEVASTATING FLOODING IN BRAZIL, AC YNA ATEBA’R CWESTIWN CANLYNOL:

Beth sy’n dy daro di am ymdrechion cymorth Tystion Jehofa ar ôl y llifogydd ym Mrasil yn 2020?