Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ebrill 1-7

SALMAU 23-25

Ebrill 1-7

Cân 4 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)

TRYSORAU O AIR DUW

1. Jehofa Ydy Fy Mugail

(10 mun.)

Mae Jehofa yn ein harwain ni (Sal 23:​1-3; w11-E 5/1 31 ¶3)

Mae Jehofa yn ein hamddiffyn ni (Sal 23:4; w11-E 5/1 31 ¶4)

Mae Jehofa yn ein bwydo ni (Sal 23:5; w11-E 5/1 31 ¶5)

Yn debyg i fugail sy’n gofalu am ei braidd, mae Jehofa yn gofalu am ei ddefaid.

GOFYNNA I TI DY HUN: ‘Sut mae Jehofa wedi gofalu amdana i yn bersonol?’

2. Cloddio am Drysor Ysbrydol

(10 mun.)

  • Sal 23:​3, BCND—Beth yw “llwybrau cyfiawnder”, a beth fydd yn ein hatal ni rhag crwydro oddi wrthyn nhw? (w11-E 2/15 24 ¶1-3)

  • Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?

3. Darlleniad o’r Beibl

(4 mun.) Sal 23:1–24:10 (th gwers 5)

RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH

4. Dechrau Sgwrs

(3 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Darllena adnod calonogol i rywun sy’n dweud ei fod yn pryderu am yr amgylchedd. (lmd gwers 2 pwynt 5)

5. Parhau â’r Sgwrs

(4 mun.) O DŶ I DŶ. Dangos i rywun sydd wedi derbyn y llyfryn Mwynhewch Fywyd am Byth! sut mae astudiaeth o’r Beibl yn cael ei chynnal. (lmd gwers 9 pwynt 3)

6. Gwneud Disgyblion

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cân 54

7. Rydyn ni’n Gwrthod Lleisiau Pobl Ddieithr

(15 mun.) Trafodaeth.

Mae defaid llythrennol yn adnabod llais eu bugail ac yn ei ddilyn. Ar y llaw arall, maen nhw’n ffoi oddi wrth rywun sydd â llais estron. (In 10:5) Gan ein bod ni’n adnabod ein bugeiliaid dibynadwy ac ysbrydol, Iesu a Jehofa, rydyn ni’n gwrando ar eu lleisiau. (Sal 23:1; In 10:11) Ond rydyn ni’n gwrthod lleisiau pobl ddieithr sy’n ceisio gwanhau ein ffydd drwy ddefnyddio “geiriau ffug.”—2Pe 2:​1, 3.

Mae Genesis pennod tri yn disgrifio’r tro cyntaf mae llais rhywun dieithr yn cael ei glywed ar y ddaear. Roedd Satan yn twyllo Efa drwy ddefnyddio sarff i guddio pwy oedd ef. Cogiodd Satan fod yn ffrind iddi, drwy ddweud celwydd am eiriau a chymhellion Jehofa. Yn drist iawn, gwrandawodd Efa arno, ac roedd hyn yn achosi llawer o ddioddefaint i’w hun a’i theulu.

Heddiw mae Satan yn ceisio hau amheuon am Jehofa a’i gyfundrefn drwy ledaenu adroddiadau negyddol, hanner wirioneddau, a chelwyddau noeth. Pan glywon ni lais estron, dylen ni ffoi! Gall gwrando, hyd yn oed allan o ddiddordeb am gyfnod byr, fod yn beryg bywyd. Faint o eiriau roedd Satan yn eu defnyddio er mwyn twyllo Efa yn ystod eu sgwrs fer? (Ge 3:​1, 4, 5) Ond beth os mae rhywun rydyn ni’n ei adnabod—sy’n ein caru ac sydd â bwriadau da—eisiau rhannu gwybodaeth negyddol am gyfundrefn Jehofa?

Dangosa’r FIDEO Gwrthodwch ‘Leisiau Pobl Ddieithr’. Yna, gofynna i’r gynulleidfa:

Beth dysgaist ti am y ffordd roedd Lili yn delio â’r sefyllfa gyda’i mam nad yw’n dyst?

8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa

(30 mun.) lff gwers 51

Sylwadau i Gloi (3 mun.) | Cân 102 a Gweddi