Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ebrill 29–Mai 5

SALMAU 34-35

Ebrill 29–Mai 5

Cân 10 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)

TRYSORAU O AIR DUW

1. Mola Jehofa yn Ddi-Baid

(10 mun.)

Roedd Dafydd yn moli Jehofa hyd yn oed yn ystod treialon (Sal 34:1; w07-E 3/1 22 ¶11)

Broliodd Dafydd am Jehofa, nid am ef ei hun (Sal 34:​2-4; w07-E 3/1 22 ¶13)

Roedd clywed Dafydd yn moli Jehofa yn atgyfnerthu ei ffrindiau (Sal 34:5; w07-E 3/1 23 ¶15)

Ar ôl i Dafydd adael Abimelech a mynd i’r anialwch, ymunodd 400 ag ef a oedd yn anhapus o dan reolaeth y Brenin Saul. (1Sa 22:​1, 2) Efallai fod Dafydd yn meddwl am y rhai hyn pan gyfansoddodd y Salm hon.—Sal 34, uwchysgrif.

GOFYNNA I TI DY HUN: ‘Sut galla i foli Jehofa wrth siarad â rhywun yn y cyfarfod nesaf?’

2. Cloddio am Drysor Ysbrydol

(10 mun.)

  • Sal 35:19—Beth yw ystyr cais Dafydd pan ofynnodd i Jehofa stopio’r rhai sy’n ei gasáu rhag “wincio ar ei gilydd”? (w06 5/15 20 ¶2)

  • Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?

3. Darlleniad o’r Beibl

(4 mun.) Sal 34:​1-22 (th gwers 5)

RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH

4. Dechrau Sgwrs

(2 fun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Mae’r sgwrs yn dod i ben cyn iti gael y cyfle i dystiolaethu. (lmd gwers 1 pwynt 4)

5. Parhau â’r Sgwrs

(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. (lmd gwers 2 pwynt 4)

6. Egluro Dy Ddaliadau

(5 mun.) Dangosiad. ijwfq 59—Thema: Sut Mae Tystion Jehofa yn Penderfynu P’un a yw Gŵyl yn Dderbyniol neu Beidio? (th gwers 17)

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cân 59

7. Tair Ffordd o Foli Jehofa yn y Cyfarfodydd

(15 mun.) Trafodaeth.

Mae cyfarfodydd y gynulleidfa yn rhoi cyfleoedd gwych inni foli Jehofa. Dyma dair ffordd.

Sgyrsiau: Sonia am ddaioni Jehofa wrth siarad ag eraill. (Sal 145:​1, 7) A wnest ti glywed neu ddarllen pwynt penodol a oedd yn dy helpu di? Ges di brofiad da yn y weinidogaeth? A wyt ti wedi derbyn anogaeth gan eiriau neu weithredoedd rhywun arall? A wyt ti wedi gweld elfen o’r greadigaeth sydd wedi creu argraff arnat ti? Mae rhain i gyd yn rhoddion gan Jehofa. (Iag 1:17) Cyrhaedda ychydig o funudau yn gynt er mwyn cael amser i siarad ag eraill.

Atebion: Ceisia ateb o leiaf unwaith yn ystod pob cyfarfod. (Sal 26:12) Gelli di ateb y cwestiwn, neu seilio dy ateb ar bwynt ychwanegol, ar adnod, ar lun, neu ar sut i roi’r wybodaeth ar waith. Peth da fyddai paratoi sawl ateb, gan mae’n debyg byddai eraill yn codi eu dwylo ar yr un pryd. Bydd mwy yn gallu “offrymu i Dduw aberth o foliant” os ydyn ni’n cadw ein sylwadau yn fyrrach na 30 eiliad.—Heb 13:15.

Caneuon: Cana ganeuon y Deyrnas yn frwdfrydig. (Sal 147:1) Efallai na fyddi di’n cael y cyfle i ateb ym mhob cyfarfod, yn enwedig mewn cynulleidfa fawr, ond gall pawb gael rhan mewn canu’r caneuon. Hyd yn oed os wyt ti’n meddwl nad oes gen ti lais da, mae’n plesio Jehofa pan wyt ti’n canu nerth dy lais! (2Co 8:12) Gelli di baratoi drwy ymarfer y caneuon o flaen llaw.

Dangosa’r FIDEO Our History in Motion—The Gift of Song, Part 1. Yna, gofynna i’r gynulleidfa:

Yn ystod dyddiau cynnar ein cyfundrefn fodern, sut gwnaethon ni ddangos ei bod hi’n bwysig i ganu mawl i Jehofa?

8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa

Sylwadau i Gloi (3 mun.) | Cân Newydd ar Gyfer Cynhadledd 2024 a Gweddi